Beth yw’r ffilm orau erioed?

Mae’n gwestiwn sy’n cael ei ofyn yn aml, ond o ystyried gymaint o ffilmiau ardderchog sydd wedi bod dros y ganrif ddiwethaf mae’n syndod y gallwn gyrraedd unrhyw fath o gonsensws ar beth sydd, yn ei hanfod, yn fater o chwaeth.

Un o’r ffilmiau hynny sydd wastad yn cael ei chynnig fel cystadleuwr ar gyfer yr orau erioed ydy The Godfather Part II. Ffilm gangster a ddangoswyd am y tro cyntaf mewn sinemâu 50 mlynedd yn ôl.