Mae Elin Wyn Owen wedi cael blas garw ar sengl newydd y gantores o Aberystwyth…
O lais hyfryd Georgia, i groove y drymiau, a’r llinynnau syfrdanol, mae’r gân ‘Driving Dreams’ yn hudolus. Mae’r sengl newydd yn rhannu mymryn o’r mwynhad allwn ni ei ddisgwyl ar ei phedwerydd albwm a fydd allan wedi heuldro’r haf.
Cerddor o Aberystwyth yw Georgia Ruth a laniodd ar y sîn gyda sŵn mawr pan enillodd ei halbwm cyntaf, Pines, y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013. Yna bu yn cydweithio gyda’r Manic Street Preachers cyn rhyddhau ei hail albwm, Fossil Scale, ac yn 2020 daeth ei thrydydd albwm, Mai. Ac ym mis Mehefin byddwn yn gallu gwrando ar ei phedwerydd albwm, Cool Head, a gafodd ei sgrifennu yn y flwyddyn ar ôl i’w gŵr, Iwan Huws o’r band Cowbois Rhos Botwnnog, gael ei gymryd yn ddifrifol wael.
Gyrru, gyrru, gyrru
‘Driving Dreams’ yw’r sengl gyntaf i Georgia ei rhyddhau ers tua dwy flynedd, ac os yw’r holl albwm newydd yn cael ei ddychmygu fel taith yn gyrru drwy’r nos i mewn i’r bore, yna dyma’r thema. A choeliwch chi fi, gwrandewch ar y gân yma wrth yrru ar ddiwrnod braf o’r gwanwyn ac mi fyddwch chi’n teimlo’i egni sinematig.
“Mae ‘Driving Dreams’ am y ffaith fy mod i desperately eisiau gallu gyrru, ac mae’r teimlad yma wedi bod yma ers blynyddoedd,” meddai Georgia.
“Ond pan oedd Iws yn sâl, roedd y broblem yn teimlo’n anferth achos roedd cymaint o bethau doeddwn i ffili gwneud.
“Wnaeth hynny i gyd fynd i mewn i’r gân felly mae hi ychydig bach yn nhafod-yn-y-boch, ond ar yr un llaw mae hi hefyd yn genuine iawn o ran y teimlad yna o jest wir moyn gwneud y peth hwn sy’n teimlo mor normal i’r rhan fwyaf o bobol.
“Ond fi’n 36 oed yn cymryd prawf fi eleni felly mae’n teimlo fel y peth enfawr yma.
“Fi wedi bod yn cael gwersi on ac off ers tua 12 mlynedd a fi jest ddim yn gallu cael fy mhen rownd pethau ac yn poeni a mynd i banig.
“Dydw i ddim yn yrrwr naturiol.
“Ond ro’n i eisiau sgrifennu amdano fe a chael bach o hwyl gyda fe.”
Cadw pen cŵl
Daw deitl ei phedwerydd albwm, Cool Head, o ymadrodd y byddai ei thad yn ei ddefnyddio er mwyn annog meddwl yn dawel a llonydd. Casgliad didwyll o ganeuon wedi eu dylanwadau bopeth o Americana i faledi gwerin y 1960au yw’r casgliad swmpus – albwm ddwbl fydd hi, felly record hiraf Georgia erioed.
“Fi wastad wedi bod yn eithaf candid gyda fy ngherddoriaeth a dyna’r oll fi erioed wedi’i wneud.
“Fi ddim yn dda iawn yn sgrifennu fel cymeriad arall.
“Mae o i gyd yn gorfod dod gennyf i a be sy’n mynd ymlaen yn fy mywyd.
“Fi’n tueddu i sgrifennu mewn batches felly cafodd yr albwm yma i gyd ei sgrifennu o fewn cyfnod o tua saith mis falle, ac oherwydd hynny mae’r caneuon i gyd yn ymwneud â’r un pynciau.
“Mae’n albwm eithaf cohesive o ran y sŵn hefyd gan bod y caneuon i gyd wedi cael eu sgrifennu dan yr un amgylchiadau yn yr un cyfnod.
“Roedd e’n gyfnod rhyfedd achos doeddwn i erioed wedi bod mewn sefyllfa fel hyn o’r blaen, felly roedd o’n eithaf brawychus ac unprecedented,” meddai yn cyfeirio at salwch ei gŵr.
“Ac fel cerddorion y peth naturiol i wneud yw defnyddio dy gerddoriaeth i weithio trwy be sy’n mynd ymlaen yn dy fywyd a chael popeth mas.
“Mae cerddoriaeth wedi bod yn gymaint o gefnogaeth i ni fel teulu achos ein bod ni wedi gallu defnyddio cerddoriaeth fel outlet.”
Ac er bod y caneuon newydd yn adrodd un stori bendant, maen nhw yn dod mewn sawl arddull wahanol.
“Er mai hon ydy’r albwm fwyaf cohesive fi erioed wedi’i wneud, mae hi hefyd gyda mwy o amrywiaeth.
“Ond ro’n i eisiau i bopeth ddod at ei gilydd i deimlo fel dy fod yn mynd yn y car ac yn gyrru ymlaen trwy’r nos ac yn gorffen ar y gân olaf yn y bore.
“A thrwy’r nos mae’r groove yma gan Gwion Llewelyn ar y drymiau, ac mae’r ffordd mae o’n drymio ar yr albwm yn bwysig iawn achos mae’n teimlo fel bod rhythm a groove y drymiau yn dy yrru ymlaen yn llythrennol
“Mae’n bach o concept album mewn ffordd achos mae gen ti’r trafod am y gyrru yn llythrennol ac yna’r ffordd ti’n cael dy yrru gan y drymiau ar y siwrne yma trwy’r nos.”
Gwesteion di-ri ar yr albwm
Wedi’i recordio yn stiwdios Sain yn Llandwrog, ger Caernarfon, mae’r albwm yn cynnwys cyfraniadau gan Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Stephen Black (Sweet Baboo), Gwion Llewelyn (Aldous Harding) a Rhodri Brooks (Melin Melyn).
Ar ben hynny, mae Euros Childs gynt o Gorky’s Zygotic Mynci yn canu ar gwpl o ganeuon.
“Mae llais Euros mor distinct a fi’n teimlo fy mod i’n nabod ei lais e yn rili da jest o wrando ar recordiau Gorky’s a’i stwff e, felly mae’n swreal i glywed e’n canu un o fy nghaneuon i.
“Roedd o’n deimlad ychydig bach yn rhyfedd ond rili cŵl.”
Mae Cool Head hefyd yn cynnwys trefniadau llinynnol gan Gruff Ab Arwel, sydd wedi benthyg ei glust am alaw i ddod â dimensiwn newydd i’r caneuon.
“Ro’n i’n rili chuffed efo’r llinynnau achos dydw i erioed wedi cael llinynnau ar albwm o’r blaen,” meddai Georgia.
“Roedd e’n bleser cael gweithio efo nhw yn stiwdios Sain ble roedd Angharad Davies, Angharad Jenkins a Patrick Rimes yn ychwanegu hyn.
“Ac er mai dim ond y tri ohonyn nhw sydd ar yr albwm, maen nhw’n swnio fel adran linynnol enfawr.
“Roedden nhw mor wych.
“Mae yna rywbeth old school am gael llinynnau a dyw e ddim yn digwydd gymaint rhagor falle. Felly roedd gweld Gruff ab Arwel a sgrifennodd y trefniant ar gyfer y llinynnau yn cydweithio efo nhw, a gweld popeth yn dod at ei gilydd, yn deimlad rili cyffrous.
“Wnes i wir fwynhau’r profiad o recordio’r albwm.”
Magu teulu, llai o feirniadu
Mae magu plant yn fusnes sy’n trawsnewid bywyd y rhiant dros nos, wrth gwrs, ac i gerddor gall hyn olygu llai o amser i greu, meddai Georgia. Ond trwy fod yn glyfar gyda’i hamser a dysgu i beidio bod mor hunan-feirniadol, mae’r gantores yn teimlo bod magu ei phlant wedi creu ffordd iachach o sgrifennu a chyfansoddi.
“Ar ôl ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, ro’n i’n ffeindio fy mod i yn gwrando ar yr albwm gyntaf ac yn gor-ddadansoddi be ro’n i wedi gwneud arni, a meddwl: ‘Be oedd pobol yn hoffi am hwnna?’
“A’r eiliad ti wedi dechrau meddwl am hwnna, mae’n dechrau effeithio ar y llif yna.
“Ond pan ti’n ceisio bod yn gerddor a magu plant, dwyt ti methu fforddio bod yn hunan-feirniadol a lladd ar dy hun.
“Mae’n rhaid i ti jest gwneud y gorau galli di ac mae’n beth eithaf neis.
“Mae o wedi fy ngwneud i’n lot fwy clên efo fy hun ac yn fwy iach efo’r ffordd fi’n sgrifennu.
“Os yw’r gerddoriaeth yn ddigon da, mae hwnna’n grêt.
“Ond mae jest cael rhywbeth mas yn ddigon da yn hytrach na meddwl bod popeth yn gorfod bod yn berffaith neu fy mod i’n gallu gwneud yn well.
“Y peth pwysig yw cael y miwsig mas erbyn hyn, felly mae’n teimlo fel big deal i gael rhywbeth mas eto.”
Fis nesaf fydd Georgia yn rhannu ail flas bach o Cool Head gyda sengl Gymraeg, sef ‘Duw Neu Magic’, a fideo o’r gân ar raglen Lŵp S4C i gydfynd.
“Mae hi’n fwy gonest nag unrhyw beth fi erioed wedi’i wneud yn y Gymraeg o’r blaen,” meddai am y sengl nesaf.
Nofel ar y ffordd
Ar yr un diwrnod â rhyddhau’r albwm Cool Head, bydd Georgia yn cyhoeddi ei nofel gyntaf erioed, Tell Me Who I Am, sy’n cyd-fynd â sengl oddi ar yr albwm. Mae’r nofel yn rhannu hanes Jude, cyn-gerddor sy’n teimlo bod ei fywyd wedi bod yn siom, wedi iddo ddod yn enwog gyda’i albwm gyntaf, cyn cael ei fwyta gan ofn llwyfan a hunan-atgasedd, gan droi’n angof.
Ar ôl symud yn ôl i le y cafodd ei fagu, dafliad carreg o Gaerfyrddin, mae Jude yn teimlo’n gysurus ymhlith y bobol leol sy’n dal i drysori ei waith cynnar. Fodd bynnag, mae datguddiad syfrdanol yn peryglu ei heddwch newydd, gan ei annog i ail-werthuso ei flaenoriaethau. Mae Tell Me Who I Am yn cael ei digrifio fel nofel sydd yn llythyr cariad at orllewin Cymru.
“Prif gymeriad y llyfr, Jude, sydd wedi sgrifennu un o’r caneuon ar yr albwm,” eglura Georgia, “a thaswn i heb sgrifennu’r nofel yn ystod y cyfnod clo, byddai’r gân yma byth wedi bodoli achos sa i’n credu y byddwn i wedi sgrifennu cân fel yna i fy hun.
“Wnes i benderfynu recordio fe ac roedd e’n ffitio’n neis ar yr albwm.
“Maen nhw sort of ynghlwm efo’i gilydd ond hefyd ddim… Maen nhw fel cefndryd.
“Fi’n gyffrous, ond fi’n fwy nerfus am bobol yn darllen y nofel nag ydw i o bobol yn clywed y caneuon, achos mae’n teimlo fel rhywbeth go newydd i fi.
“Roedd sgrifennu nofel yn broses mor wahanol i sgrifennu caneuon.
“Fi ddim yn gwybod sut mae pobol yn sgrifennu mwy nag un nofel!
“Ond wnes i joio!”