Annwyl Wynford,
Rwy’n cael panics bob blwyddyn wrth i wyliau’r Pasg nesáu – bydd disgwyl i mi, y gŵr, a’r plant fynd i aros gyda’r fam-yng-nghyfraith; mae’n ddefod deuluol flynyddol. Mae hefyd yn hunllef.
Ers colli ei gŵr bedair blynedd yn ôl mae ei hymddygiad wedi gwaethygu – mae’n ceisio rheoli’n bywydau ni i gyd, gan fynnu ein bod yn gwneud popeth yn ôl ei dymuniad hi. Mae o fel bod mewn carchar pan yn ei chwmni. A fiw i neb anghydweld â hi neu dynnu’n groes, dyna pryd daw’r dagrau, y tafod miniog, a’r pwdu mawr. Rydw i’n trïo perswadio’r gŵr inni beidio mynd i aros ati hi’r Pasg hwn (rydan ni’n gorfod mynd bob Nadolig hefyd, ers i mi golli fy rhieni dros ddegawd yn ôl), a mynd dramor i chwilio am haul. Ond mae’r gŵr yn teimlo’n euog, ac eisiau gofyn iddi hi ddod gyda ni rhag pechu yn ei herbyn. Help! Byddai hynny’n difetha’r gwyliau i bob un ohonom. Dyw’r plant ddim yn cael bod ynddyn nhw’u hunain chwaith.
Mae pawb ohonom yn cerdded fel ar blisgyn wyau. Beth fedrwn ni wneud?
Mae rhai ohonom, fel eich mam-yng-nghyfraith, am geisio newid pobl eraill – i fod yr hyn nad ydyn nhw ddim. Pobl bryderus ydy’r rhain gan amlaf sy’n teimlo’n ansicr ac, yn hytrach na delio gyda’r ansicrwydd hwnnw, ceisiant reoli’r byd o’u cwmpas mewn ymdrech i drio teimlo’n well. Yn aml, pobl ydy’r rhain sydd wedi tyfu fyny mewn cartrefi lle mae anhrefn yn teyrnasu. Ymdrech ydy’u hymddygiad nhw, felly, i osod rhyw fath o drefn ar yr anhrefn hwnnw. Tybiant os cânt bobol i wneud yr hyn maen nhw eisiau iddyn nhw wneud, y bydd heddwch a threfn yn dychwelyd i’w byd anhrefnus. Rhith yw hyn wrth gwrs. Fedrwn ni ddim newid pobl eraill a’u cael i ymddwyn yn ôl ein hewyllys ni. Ond dyw hynny ddim yn eu rhwystro nhw rhag trio. Ac mae’u dulliau o drio gwneud hynny, fel y gwyddoch o brofiad rwy’n siŵr, yn gallu bod yn ymwthgar, ymosodol weithiau – yn gynnil iawn hyd yn oed.
“Be ydach chi’n neud nos fory?”
“O, dim byd…”
“Iawn felly, gewch chi fynd â fi i ddal y trên o stesion Caerdydd am saith!”
Chafwyd dim dewis yn y mater. Mae person fel hyn yn dwyn oddi ar y person arall yr hawl i ddewis beth mae’n wneud gyda’i fywyd ef ei hun. Ac mae’r person hwnnw druan yn teimlo fel petai o wedi cael ei dreisio. A dyw treisio ddim yn air rhy gryf chwaith. Ystyr treisio yw cymryd rhywbeth heb ganiatâd. A dyna mae’r person sy’n ceisio rheoli eraill yn ei wneud – dwyn oddi arnoch eich hawl i ddewis. Ar ei waethaf, mae’n gallu esblygu’n gymhellol ac yn dreisgar gan esgor yn aml ar drais yn y cartref. Pan ddigwydd hynny, deialwch 911 yn syth, neu cysylltwch â llinell gymorth Trais Domestig Cenedlaethol ar 800-799-7273; neu tecstiwch 22522. Yn eich achos chi, sut bynnag, teimlo dan orfodaeth i ymddwyn mewn rhyw ffordd arbennig sy’n groes i’ch dymuniad ydych chi – ond mae hynny hefyd, wrth gwrs, yn ffurf ar drais. Mae’n ddiddorol sylwi bod ymddygiad eich mam-yng-nghyfraith wedi gwaethygu yn dilyn marwolaeth ei phriod bedair blynedd yn ôl, oherwydd dyna pryd o bosib y byddai’r ansicrwydd ynglŷn â’i dyfodol a’i stad o fod ar ei fwyaf enbyd. A dyna wedyn pan fyddai ei hymdrechion i drio adfer rhyw fath o reolaeth ar yr ansicrwydd hwnnw yn amlygu ei hun fwyaf.
Herio’r Fampir
Mae yna ddau fath o berson: y ‘draen’ – sy’n sugno pawb a phopeth yn sych o bob dewis a phŵer; a’r ‘rheiddiadur’ (radiator) – yr un sy’n lledaenu gwres a chysur a daioni i bawb sydd o fewn cyrraedd iddo. Rwy’n tybio eich bod yn gwybod pa un sy’n disgrifio orau eich mam-yng-nghyfraith!
Y perygl i chi’n bersonol ac, o bosib, i rai aelodau eraill o’r teulu, yw eich bod yn datblygu dig yn erbyn eich mam-yng-nghyfraith. Rhown ein pŵer i ffwrdd pan mae dicter yn ein goddiweddyd fel hyn. Aiff ein hunaniaeth ynghlwm ynddo, sy’n gallu bygwth ein tyfiant personol a’n rhwystro rhag adnabod a gwerthfawrogi’r cyfleoedd mae bywyd yn ei gynnig inni.
Mae’r datrysiad, sut bynnag, yn y ffordd y byddwch yn ymateb i’n dicter hwnnw. Os byddwch yn sgrechian a thyngu a thaflu pethau, byddwch yn difetha unrhyw obaith o wneud eich perthynas gyda’ch mam-yng-nghyfraith yn well. Os na wnewch chi ddim byd, a chladdu eich teimlad o ddicter y tu fewn i chi’ch hunan, yna byddwch yn dioddef o iselder ac yn dal dig, ac ni fydd hynny’n gwella’r sefyllfa chwaith. Ond, os byddwch yn gweithredu’n gadarnhaol er mwyn newid y sefyllfa, efallai bydd pethau’n gwella; o leiaf byddwch yn gwybod pryd i ymddihatru o’r berthynas yn emosiynol, a gallu gwneud hynny heb ddifaru dim! Gallwch hefyd, wrth gwrs, yn ôl fy anogaeth arferol, roi caniatâd i chi’ch hun deimlo’r dicter – gan fod derbyniad yn ateb i’n holl broblemau.
Beth i’w wneud, felly, pan mae rhywun fel hyn sy’n oedrannus yn ceisio’ch rheoli?
Wel, heriwch nhw – y rhai sydd am eich rheoli. Pan ddigwydd hynny i chi, ac mae ganddo’ch chi berson hunanol sy’n ceisio’ch cael chi i wneud rhywbeth yn erbyn eich ewyllys, dwedwch hyn wrthyn nhw – yn chwareus ac ysgafn os gallwch chi rhag cynddeiriogi dim arnynt: “Wyt ti’n ceisio fy rheoli? Achos, os wyt ti, mae’n ffordd blentynnaidd iawn o ymddwyn.”
Ac fel fampir, ciliant mewn cywilydd o olwg yn syth bin, neu o leiaf byddant yn rhoi stop ar geisio’ch rheoli. Does neb yn hoffi clywed y gwir amdanynt eu hunain – yn enwedig pan fo’r gwir hwnnw yn amlygu ymddygiad ganddynt sy’n hynod anaeddfed ac sy’n dangos yn glir i bawb eu hanallu llwyr i dderbyn “na” fel ateb i gwestiwn. Oherwydd byddai’r “na” hwnnw wedi’u llorio a dinistrio’u hunanwerth bregus yn gyfan gwbl. Dyna pam na roddwyd unrhyw ddewis i chi yn y lle cyntaf. Pobol heb asgwrn cefn ydynt, sy’n bwydo oddi ar gymeradwyaeth pobol eraill. Drwy ofyn y cwestiwn uchod i’ch mam-yng-nghyfraith, byddwch yn bygwth atal y gymeradwyaeth hollbwysig yna oddi wrthi – a byddai hynny’n fwy nag anathema iddi. Byddai hefyd, gobeithio – gydag awgrym caredig ganddo’ch chi – yn ddigon o bosib iddi sylweddoli ei hangen am help i brosesu’r galar a’r unigrwydd annioddefol sy’n ei llethu – ac sydd, yn fwy na thebyg, wrth wraidd ei hymddygiad hunanol.