Mae’n hawdd tybio mai dim ond chwarae gêmau cyn etholiad cyffredinol ydi’r drafodaeth am sathru ar ‘eithafiaeth’. Piti na fyddai hynny’n wir.

Yn raddol, ers degawd a mwy, mae’r gwres wedi cael ei godi’n fwriadol yn erbyn neb sy’n herio’r ‘norm’ gwleidyddol ac mae’r oblygiadau’n beryglus iawn.

Mae’r asgell dde wedi gwneud bwgan o’r hyn y maen nhw’n ei alw’n ‘woke’, sy’n gamddefnydd ynddo’i hun o derm a oedd, i ddechrau, yn mynegi ymwybyddiaeth o annhegwch a hiliaeth.