Dim ond dechrau stori rhywun arall ydw i bellach. Paragraff o hanes digon digalon; Y rhan mae pawb eisiau cael allan o’r ffordd cyn cyrraedd cig y stori go-iawn. Maen nhw’n sgwennu am yr hyn ddigwyddodd i mi bryd hynny fel tasa fo’n ddim byd ond cyd-destun i fywyd fy mhlentyn. Does neb am dreulio’i hamser yn cofio’r pethau anodd gyda mi.