Ar gychwyn y penwythnos hwn mae hi’n noson arbennig iawn yng nghalendr y Cymry.

Nos Wener Dydd Gŵyl Dewi yw noson Cân i Gymru, y gystadleuaeth gyfansoddi sy’n digwydd bob blwyddyn ers 1969.

Alistair James enillodd y llynedd gyda’r gân Latino-Secsi-Gymraeg ‘Patagonia’, ond pwy fydd yn cipio’r tlws a’r wobr ariannol o £5,000 eleni?