Mae Casi Wyn wedi cyhoeddi llyfr sy’n cynnwys rhai o’r cerddi y bu iddi eu cyfansoddi ar y cyd gyda disgyblion ar hyd a lled y wlad…

Pan welodd Casi Wyn yr hysbyseb am Fardd Plant Cymru, fe daniodd y diddordeb ynddi.

“Dwi’n cofio meddwl, mi faswn i wrth fy modd yn gwneud hynna, ac yn teimlo mewn ffordd fy mod wedi bod ar daith i gyrraedd y rôl yna erioed,” meddai.