Galw am adolygu’r côd cyflenwi archfarchnadoedd er mwyn cael gwell bargen…
Mae Cymry wedi ymuno gyda thyfwyr ffrwythau a llysiau organig ledled gwledydd Prydain sy’n codi pryderon am eu dyfodol yn sgil triniaeth wael gan archfarchnadoedd.
Cafodd y pryderon eu sbarduno gan yr ymgyrch Riverford wnaeth ddarganfod bod dros hanner ffermwyr ffrwythau a llysiau’r wlad yn pryderu y gallen nhw fod allan o fusnes ymhen blwyddyn.
Yn yr un modd, dywedodd 75% mai triniaeth gan archfarchnadoedd yw un o’u prif bryderon o fewn y diwydiant.
Mae Chris a Liz Kameen yn rhedeg y siop cynnyrch organig Vale Grocer yn Ninbych.
Maen nhw, fel sawl un arall yn y diwydiant, yn galw am adolygu’r Côd Ymarfer Cyflenwi Bwydydd.
Hynny yw, maen nhw eisiau gweld archfarchnadoedd mawr yn prynu’r cynnyrch maent wedi cytuno ei brynu am y pris a gytunwyd arno – ac ar amser.
Er nad yw Liz a Chris yn gwerthu eu cynnyrch eu hunain i archfarchnadoedd, maen nhw yn prynu peth o’u cynnyrch yn uniongyrchol gan ffermydd organig i’w werthu yn eu siop, ac felly’n pryderu sut gall y driniaeth annheg effeithio ar y gadwyn gyflenwi gyfan.
Yn ddiweddar cychwynnodd y cwpl priod dyfu eu cynnyrch eu hunain, ond dywedodd Chris nad oes ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb mewn gwerthu i’r archfarchnadoedd mawr.
“Rwy’n anghytuno’n sylfaenol gyda’r peth, does gennym ni ddim diddordeb mewn prynwr corfforaethol yn dweud wrthym beth fydd y prisiau,” meddai wrth Golwg.
“Byddai’n well gennym werthu’n uniongyrchol [i gwsmeriaid].”
Ychwanegodd bod y costau sy’n dod gyda chychwyn yn y diwydiant ffermio organig yn rheswm arall dros fynnu tegwch i ffermwyr.
“Rydym yn eithaf newydd i ffermio ac ar hyn o bryd mae gennym ni draean o erw, rydym yn edrych i gael mwy o dir ond mae’n rhaid talu’r pris uchaf amdano,” meddai.
“Dydyn ni heb etifeddu llwyth o dir neu’r holl beiriannau sydd angen eu prynu.
“Felly wrth ddechrau o’r dechrau, rydym yn mynd i werthu cynnyrch yn uniongyrchol.”
Eglura ei bod yn anodd iawn i ffermwyr sydd wedi bod yn gwerthu i un farchnad neu brynwr mawr ers blynyddoedd i newid eu ffordd o weithio.
“Maen nhw wedi gallu derbyn y prisiau a gynigiwyd, yn rhannol oherwydd cymorthdaliadau’r llywodraeth, rwy’n meddwl,” meddai.
“Dyna’r ffordd maen nhw wedi cael eu hannog i weithio a nawr mae’n amhosibl iddyn nhw geisio troi a symud i ffwrdd oddi wrth hynny.
“Allwn ni ddim dadwneud 70 mlynedd o newidiadau sydd wedi digwydd fesul tipyn, ond mae angen inni wneud yn siŵr nad yw archfarchnadoedd yn rhy bwerus.”
Annog cyflenwyr lleol
Ynghyd â gwerthu ffrwythau a llysiau unigol yn eu siop, mae Chris a Liz hefyd yn darparu bocsys o gynnyrch organig ble mae ansawdd yn flaenoriaeth.
“Dim ond yr hyn sydd yn ei dymor rydyn ni’n ei werthu,” meddai Chris.
“Gyda beth sy’n mynd ymlaen yn Ffrainc ac yn Ewrop ar hyn o bryd gyda ffermwyr yn protestio, dydy llawer o lysiau ddim wedi bod yn dod trwodd o Ewrop.
“Felly oherwydd hynny roedd y blychau llysiau yn llawn llysiau gwraidd yr wythnos diwethaf, ac roedd yn wych.”
Eglura Chris bod diffyg ffermwyr lleol yn ardal Dinbych sy’n tyfu ffrwythau a llysiau.
“Y rheswm am hynny yw bod llawer o ffermydd yn rhai un cnwd erbyn hyn, yn ffermio naill ai cig oen, cig eidion neu laeth,” meddai.
“Byddai ffermwyr yn dweud bod hynny oherwydd bod y tir yn dda ar gyfer anifeiliaid, a dydw i ddim yn amau hynny.
“Ond 70 mlynedd yn ôl, bydden nhw hefyd wedi bod yn tyfu moron a thatws ac ati ar eu tir ac yn gwerthu popeth i’r farchnad leol.
“Nid oes neb yn gwneud hynny yn awr ac mae llawer o’r sgiliau o ran sut i wneud hynny wedi mynd.”
Wrth brynu cynnyrch gan ffermwyr lleol, mae siop y Vale Grocer yn ceisio cynnig rhyw fath o sicrwydd i ffermwyr organig yr ardal.
“Rydyn ni’n dweud wrth unrhyw ffermwr, ‘os ydych chi’n tyfu llysiau, rhowch wybod i ni eich bod chi’n mynd i wneud hynny ar ddechrau’r tymor, ac yna mae gennym ni farchnad i chi,’” meddai Chris.
Pris tebyg, ansawdd gwell
Yn ôl Chris, camsyniad yw meddwl bod prynu gan siopau cynnyrch lleol yn ddrytach na phrynu o archfarchnadoedd, gan fod eu prisiau yn eithaf tebyg ar y cyfan.
“Mae popeth rydyn ni’n ei werthu yn organig, felly rydyn ni’n ceisio gwirio prisiau yn erbyn yr archfarchnadoedd. Ond dydy’r rhan fwyaf o’r llysiau rydyn ni’n eu gwerthu ddim yn rhai gallwch eu prynu yn organig yn yr archfarchnad,” meddai.
“Felly mae gwirio’r pris yn gallu bod yn anodd, ond mae ein prisiau yn debyg iawn.”
Dywed bod cwsmeriaid yn aml yn dod i mewn ac yn dweud bod y tatws, er enghraifft, yn ddrud gan eu bod yn gallu costio 20% – 30% yn fwy na’r pris yn yr archfarchnadoedd.
“Ond wedyn rydyn ni’n gwerthu betys organig am tua £2.50 y kilo tra bod yr archfarchnadoedd yn ei werthu am £11-£12 y kilo,” meddai.
Eglura nad yw’n deall sut gall yr archfarchnadoedd gyfiawnhau prisiau cymaint yn is ar gyfer rhai cynnyrch, megis tatws, tra eu bod yn codi prisiau llawer uwch ar bethau fel betys a chêl.
Ychwanega mai’r broblem sydd ganddyn nhw fel busnes bach, yn y pen draw, yw nad ydynt yn gallu fforddio cystadlu gyda chyllideb farchnata’r archfarchnadoedd.
“Y gwahaniaeth rhyngom ni a’r archfarchnadoedd yw bod yn rhaid iddyn nhw wario ffortiwn yn dweud wrth bawb bod eu cynnyrch nhw yn rhatach ac yn fwy ffres,” meddai.
“Ond gallwn ni ddim fforddio cystadlu â’u cyllideb farchnata.
“Dechreuon ni farchnad ffermwyr ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis ac mae pobol yn dweud bod angen i ni ei hysbysebu fwy.
“Gallwn ni ddim fforddio gwneud hynny.”
Crybwyll Clwyd yn San Steffan
Mae David Jones yn Aelod Seneddol dros Orllewin Clwyd ac mae wedi cyfeirio at alwad Chris a Liz Kameen am degwch i ffermwyr organig yn San Steffan.
Wrth siarad gyda Golwg, cyfeiriodd at achos “dinistriol” arall ble gadawyd ffermwr gyda 60 tunnell o datws dros ben oherwydd bod archfarchnad wedi methu ei brynu.
“Yn y bôn, mae’n rhaid i archfarchnadoedd ymddwyn fel y dylent ymddwyn yn sgil yr hyn y cytunwyd i’w brynu a thalu’r hyn y cytunwyd i’w dalu yn brydlon,” meddai David Jones.
“Dyna y dylai unrhyw archfarchnad weddus fod eisiau ei wneud beth bynnag.”
Dywed bod ymgynghoriad Llywodraeth Prydain ar berthnasoedd cytundebol yn y diwydiant cynnyrch yn dod i ben ar 22 Chwefror.
“Rwy’n mawr obeithio mai canlyniad hynny fydd diwygiadau i’r cyflenwad a’r côd ymarfer cyflenwi,” meddai.
Ychwanega bod y Vale Grocer yn eithaf adnabyddus yn lleol a’u bod wedi llwyddo i ennill enw da i’w hunain.
“Ond dydyn nhw ddim yn cyflenwi holl lysiau’r bocsys, maen nhw’n dibynnu ar dyfwyr organig o bob rhan o’r wlad,” meddai.
“Felly os bydd unrhyw un o’r rheini’n mynd i’r wal o ganlyniad i’r driniaeth gan archfarchnadoedd, yna bydden nhw yn eu tro yn dioddef. Ac yn y pen draw bydd eu cwsmeriaid yn dioddef oherwydd na fyddent yn gallu cael gafael ar y cynnyrch.”
‘Rhaid cael tegwch yn y gadwyn’
Mae Aled Jones, Llywydd NFU Cymru, hefyd yn bryderus sut gall peidio â thrin cyflenwyr yn deg effeithio ar y gadwyn gyfan.
“Mae unrhyw beth sy’n effeithio ar y gadwyn yn arwain at doriad ynddi, mae’n rhaid cael tegwch yn y gadwyn fwyd,” meddai wrth Golwg.
“Mae ffermwyr llaeth wedi ei gweld hi ers blynyddoedd, lle mae’r archfarchnadoedd yn gwerthu llefrith am golled er mwyn denu pobol i mewn trwy’r drysau.
“Beth maen nhw’n wneud ydy rhoi pwysau ar y proseswyr i roi llai o bris i’r ffermwyr.
“Mae o’n gylch dieflig.”
Dywed y byddai sicrhau fwy o degwch yn rhoi hyder i ffermwyr organig i barhau i gynhyrchu bwyd.
“Rydw i’n gwybod mor anodd ydy o weithiau pan mae tywydd yn eich erbyn chi,” meddai.
“Y ffermwyr sy’n dioddef y golled oherwydd hynny, nid yr archfarchnadoedd, ac maen nhw’n gorfod trio parhau mewn busnes.
“Mae yna ddeddfwriaeth sydd yn mynd i ddod gerbron y Senedd [yng Nghaerdydd] yn fuan lle bydd gorfodaeth i gytundebau llaeth ddangos yn glir sut mae proseswyr yn ymddwyn gyda ffermwyr.
“Rydw i’n gobeithio bydd hynny’n gam a ddaw ag ychydig o sefydlogrwydd i’r ffermwyr.”
Fe gysylltodd Golwg â sawl archfarchnad, a dywedodd llefarydd ar ran Sainsbury’s bod ganddyn nhw bartneriaethau hirdymor gyda’u cyflenwyr a’u bod yn gwrando ac yn ymateb i’r heriau sy’n wynebu ffermwyr Prydeinig.
“Rydym yn falch o’n hanes 150 mlynedd o gefnogi ffermwyr Prydain a dod o hyd i gymaint o gynnyrch Prydeinig ag y gallwn,” medd llefarydd.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig mae Sainsbury’s wedi talu dros £66m o gymorth i ffermwyr Prydain.”