Ein harbenigwr rygbi, Seimon Williams, sy’n enwi’r chwaraewyr wnaeth argraff yn y golled arwrol yn erbyn yr Alban, cyn gosod y llwyfan ar gyfer y gêm fawr flasus yn erbyn y Saeson y Sadwrn hwn…
Wrth deithio i Gaerdydd penwythnos diwethaf, dwy fuddugoliaeth oedd gan yr Alban yng Nghymru yn ystod y ganrif hon – un yn Llanelli yn ystod cyfnod Covid (a does neb yn cyfri hwnnw), a’r llall nôl yn 2002. Mor bell yn ôl nes nad oedd capten presennol Cymru – y clo Dafydd Jenkins – hyd yn oed wedi’i eni. Doedd pethau fawr gwell adref iddyn nhw, yng nghysur Murrayfield, chwaith. Dim ond yn 2003, 2007, 2017 a 2023 profodd yr Alban lwyddiant. Cymru oedd yn dominyddu.
Ond mi oedd gêm nos Sadwrn diwethaf yn un oedd yn haeddu ei lle ym mhantheon yr ymryson hynafol hwn. Gêm o ddau hanner go-iawn. Yr Alban yn llwyr reoli yn ystod yr hanner cyntaf i’r fath raddau fel nad oedd angen iddyn nhw ymdrechu’n galed iawn. Nhw oedd yn ennill pob un gwrthdrawiad bron. Roedden nhw’n ennill troedfeddi wrth gario ac yn atal Cymru ar neu’n aml cyn y llinell fantais. Roedd darnau gosod Cymru’n gwegian – y sgrym dan bwysau, y llinell (collwyd pump yn yr hanner gyntaf) ar chwâl. Gor-ofalus ac ofnus oedd y Cymry – ychydig iawn o fenter, cicio gwallus, y cwrso’n araf ac yn ddi-drefn. Ymysg yr holl bwysau, diflannodd y disgyblaeth. Costelow yn camsefyll, Adams yn taflu’r bel i’r dorf. Russell, y maestro, yn cyfarwyddo’r sioe. Cais i Schoeman, wedyn cais i van der Merwe. 20-0 ar yr hanner.
Newidiadau ar yr egwyl. Gyda Ioan Lloyd eisoes ar y cae wedi i Sam Costelow dderbyn cyfergyd, i’r cae yn awr daeth Tomos Williams, Keiron Assiratti ac Elliot Dee. Serch hynny, yr un oedd thema dechrau’r ail hanner. Cic rydd gan Gymru, Russell yn bylchu cyn rhyddhau van der Merwe ar garlam o hanner ffordd. 27-0. Y gêm wedi’i hennill, pwynt bonws yn siŵr o ddilyn, a’r Alban yn medru ymlacio a dechrau meddwl am wynebu’r Ffrancod yn y rownd nesaf o gemau.
Ac yna… wel… dyddiau’n ddiweddarach, mae’n anodd amgyffred beth yn union ddigwyddodd. Cosbwyd yr Alban, aeth Ioan Lloyd at y gornel, ac fe enillodd Cymru’r bêl yn y llinell. Rhyfeddod. Aeth y sgarmes symudol ar garlam tuag at linell yr Alban. Tynnodd y bachwr George Turner y cwbl lot i’r llawr, ond plymiodd Jim Botham drosodd beth bynnag (ei weithred olaf cyn ildio i Alex Mann). Cais i Gymru, cerdyn melyn i Turner. Methodd Lloyd y trosiad, ond mi oedd dylanwad y maswr ifanc yn tyfu.
Antur Cymru’n cael ei wobrwyo wedyn wrth redeg cic gosb arall. Rio Dyer yn croesi’r tro hwn. Chwe munud yn ddiweddarach, cic cosb arall, mwy o fenter, a thrydydd cais wrth i Wainwright blymio drosodd dan y pyst. Chwe munud yn ddiweddarach, mwy o droseddu gan yr Alban – ildiwyd 16 o giciau cosb ganddynt, yn erbyn pedwar gan Gymru – a’r canolwr Sione Tuipulotu oedd y diweddaraf i dreulio cyfnod yn y gell cosb. Wrth i’r gêm nesáu at y deng munud olaf, daeth trosedd arall, llinell arall, a chais arall o’r sgarmes symudol wrth i Alex Mann groesi llai nag ugain munud i mewn i’w gyrfa ryngwladol. Trosodd Lloyd, ac – anghrediniaeth – roedd Cymru nôl o fewn pwynt.
Nid oedd yr un tîm Haen 1 (hynny yw, y Chwe Gwlad a thimoedd Pencampwriaeth hemisffer y de) wedi llwyddo i ennill ar ôl bod cymaint â 27 o bwyntiau ar ei hôl hi. A oedd yna gyfle yma? A oeddem ni am weld gwyrth debyg i 2010 eto? Ond, na, fel yna gorffennodd hi. Buddugoliaeth i’r Alban o bwynt yn unig, o 27-26.
Chwaraewyr gorau Cymru
Rhyfedd oedd gweld ymateb y chwaraewyr a’r cefnogwyr wrth i’r chwiban fynd. Dim dathlu gan yr Alban, dim ond rhyddhad. Awgrymodd Russell fod ei dîm wedi dechrau ymlacio ar ôl ail gais van der Merwe, a bod hynny wedi bod yn ddigon i gynnig llwybr yn ôl i’r Cymry. Anodd gwybod yn iawn ai hynny, neu chwaraewyr Cymru yn datrys eu problemau yn y darnau gosod a dechrau cario gyda phwrpas oedd y gwahaniaeth. Neu cymysgedd o’r ddau, efallai. Anhapus oedd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wrth iddo feio’r golled ar ddiffyg disgyblaeth a diffyg cywirdeb yr hanner gyntaf.
Aaron Wainwright oedd seren y gêm am ei gario pwerus ac athletaidd. Mae yna ryw adlais o Andy Ripley, wythwr Lloegr nôl yn y 1970au, yn ei arddull rhedeg. Fe a’r blaenasgellwr agored Tommy Reffell oedd y ddau i gadw’u pennau a’u safon yn ystod yr hanner cyntaf, gyda Reffell yn achub sawl argyfwng trwy arafu neu ddwyn meddiant yn ardal y dacl. Roedd Cameron Winnett – yn chwarae i Gymru am y tro cyntaf ar ôl gwella o anaf – yn daclus ac yn hynod effeithlon yn y cefn. Cynyddu wnaeth dylanwad Nick Tompkins yn y canol hefyd. Da oedd gweld Corey Domachowski, y prop pen rhydd, yn chware’r 80 munud llawn, ac mi oedd ei aduniad gyda’i gyd-flaenwyr o Gaerdydd Keiron Assiratti, Teddy Williams ac Alex Mann yn un rheswm am welliant y gwaith cario yn yr ail hanner.
Nôl i Murrayfield eith yr Alban nesaf i herio’r Ffrancod. Colli – a hynny’n drwm – oedd eu hanes nhw ym Marseille nos Wener. Gyda’r fantais o fod adref, dyma gyfle i’r Alban adeiladu ar eu buddugoliaeth yng Nghaerdydd.
O ran Cymru, i Lundain yr awn ni nesaf. Agos oedd gêm agoriadol Lloegr – buddugoliaeth o driphwynt yn unig yn Rhufain yn erbyn yr Eidalwyr. Beth i’w ddisgwyl gan y Saeson, felly?
Lloegr ar eu newydd wedd
Golwg digon anghyfarwydd sydd i’r Saeson eleni. Mae rhai o fawrion y degawd diwethaf – Owen Farrell, Ben Youngs, Courtney Lawes a Mako Vunipola yn eu plith – wedi ymddeol o’r gêm ryngwladol (dros dro, o bosib, yn achos Farrell). Ambell seren ifanc megis Henry Arundell a Joe Marchant yn chwarae yn Ffrainc bellach ac felly ddim yn gymwys i Loegr. Tom Curry, Luke Cowan-Dickie, Ollie Lawrence a Manu Tuilagi wedi’u hanafu, a’r angen i adnewyddu ac ail-adeiladu yn dod â diwedd i gyfnodau Billy Vunipola, Kyle Sinckler ac eraill, am y tro, o leiaf. Mae yna gyffro ymysg y cefnogwyr, gydag arddull agored ac anturus yr Harlecwiniaid a Northampton – a phresenoldeb cynifer o chwaraewyr y ddau glwb yn y garfan genedlaethol – yn awgrymu newid pwyslais. Neu fwriad i newid pwyslais, beth bynnag.
Digon trefnus a gwydn hefyd oeddynt yn Rhufain wrth gipio buddugoliaeth 27-24. Ychydig iawn o greadigrwydd daeth trwy ganol cae, ond fe wnaeth Tommy Freeman grwydro’n bwrpasol iawn o’r asgell, ac mae yna awydd i ledu’r bêl. Gwella wnaeth yr amddiffyn wrth i’r gêm symud i’r chwarter olaf, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gyda Felix Jones – gynt o dîm hyfforddi hynod lwyddiannus De Affrica – yn gyfrifol am yr elfen honno. Dau o gyn-chwaraewyr y Gweilch oedd y blaenasgellwyr – Sam Underhill a seren-y-gêm Ethan Roots wedi treulio amser yn Abertawe cyn symud i Loegr. Fe gafodd y Cymro Immanuel Feyi-Waboso ei gap gyntaf i’w wlad newydd hefyd o’r fainc.
Mi fydd tîm Cymru wedi’i gyhoeddi erbyn i’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn eich cyrraedd. Anodd yw rhagweld beth fydd agwedd Gatland y tro hwn. Ai rhoi cyfle arall i’r chwaraewyr gychwynnodd ond wedyn a gafodd eu heilyddio yn gynnar yn erbyn yr Alban – Gareth Davies, Owen Watkin a Leon Brown yn eu plith? Mae yna ddadl bod Tomos Williams, er enghraifft, ar ei orau yn dod i’r maes wrth i gyrff flino a’r gwagleoedd ddechrau agor lan. Neu a yw Williams, Assiratti, Dee a Mann, yn enwedig, yn haeddu cychwyn? Yn sicr, bydd angen newid yr arddull. Beth bynnag am eiriau Gatland ar ddiwedd y gêm, anodd yw credu nad oedd Cymru’n chwarae i gynllun yr hyfforddwr yn yr hanner cyntaf. Ond nid Leigh Halfpenny yw Cam Winnett, ac nid Dan Biggar yw Costelow na Lloyd. Rhaid chwarae i gryfderau’r chwaraewyr presennol, nid cynllun sy’n siwtio carfan cwbl wahanol.
Yr her i Gymru yn Nhwickenham, bob dwy flynedd, yw ymdopi gyda chwarae corfforol blaenwyr Lloegr yn yr hanner cyntaf. Mae’n batrwm, erbyn hyn – Lloegr yn brasgamu i fantais sylweddol yn gynnar, Cymru’n naddu eu ffordd yn ôl yn hwyrach yn y gêm. Weithiau – 2008, 2012, 2015 – mae hyn yn ddigon. Yn amlach, syrthio cwpwl o bwyntiau’n brin yw’r stori. Bydd rhaid cychwyn yn well na’r arfer yn Llundain, ac yn sicr yn well na wnaeth y tîm ddydd Sadwrn, i fod ag unrhyw obaith. A, tra nad yw’r math o rygbi chwaraeodd Cymru yn yr ail hanner wastad yn bosib, ceisio ymestyn amddiffyn cul Lloegr yw, does bosib, y ffordd orau i gynnau’r fflam.
Lloegr v Cymru yn fyw ar S4C, y gic gyntaf am 4.45 bnawn Sadwrn
Ffarwel i Barry John
Nodyn i gloi. Wrth edrych yn ôl dros y gemau cofiadwy rhwng Cymru a’r Alban ar hyd y blynyddoedd, trist oedd cofio faint o’r cewri sydd bellach wedi ein gadael. Ydy, mae mawrion y 1970au yn eu saith degau bellach, ond creulon iawn fu’r ychydig flynyddoedd diwethaf. Collwyd JJ Williams, Phil Bennett, Charlie Faulkner a, dros y mis diwethaf JPR Williams a – nos Sul – Barry John, y Brenin. Dau o gewri’r unig daith lwyddiannus gan y Llewod i Seland Newydd erioed, nôl yn 1971. Mae’r gêm a’r genedl yn dlotach o’u colli.
Rhoddaf y gair olaf i Dic Jones, a’i gerdd Baled y Llewod (1971):
I ddysgu’r ffordd i chwarae pêl
I gewri Seland Newydd
Na dwrn na maint ni fennai ddim
Ar Gerald chwim na Gareth
Nac ar John Williams chwaith, yn siŵr,
Y gŵr a heriai bopeth,
A phan fai’r frwydr fwya’i llid
Roedd esgid Barry’n ddi-feth.