Annwyl Wynford,
Dw i wrth fy modd yn rhoi – mae’n gwneud i mi deimlo’n dda. Dw i wastad yn mynd dros ben llestri yn prynu anrhegion i fy mhlant. Wnes i brynu car i fy merch yn ddiweddar, a beic newydd i fy mab wedyn, er mwyn tegwch.
Ond dw i’n casáu derbyn pethau – mae o’n gwneud i mi deimlo’n annifyr. Ges i fagwraeth eitha’ llwm, ac mae euogrwydd yn bwyta fi’n fyw pan dw i’n cael unrhyw anrheg o bwys. Wnaeth fy ngwraig brynu set o ffyn golff i mi, ond dw i’n dal i ddefnyddio’r hen rai, achos dw i ddim yn teimlo fy mod yn haeddu chwarae gyda fy “rhai gorau”.
Cefais ganmoliaeth yn y gwaith yn ddiweddar am ennill cytundeb mawr i’r cwmni ac roedd y bos wedi diolch i mi o flaen fy nghydweithwyr. Ond o! Na fyddai’r llawr wedi agor â’m llyncu.
Ar yr wyneb, dw i’n ymddangos yn hyderus ac yn llwyddiannus, ond mae’r hogyn bach tlawd o’r stad cyngor yn dal i fod yn holl bresennol. Pam bod hyn?
Diolch i ti am gysylltu. Yng Ngorffennaf 1992 mi ges i’r cyngor gorau dw i erioed wedi’i gael. Ro’n i’n adfer o’m halcoholiaeth yn Rhoserchan, canolfan driniaeth yng Nghapel Seion ger Aberystwyth, ar y pryd. Fel rhan o’m hadferiad roedd disgwyl i ni weithio yn yr ardd (roedd y ganolfan yn hunangynhaliol o ran llysiau’r ardd). Wrth i mi balu yn yr ardd un diwrnod, dyma Pete, y garddwr, yn pwyso ar ei raw a dweud hyn wrtha i: “Wynford,” medda fo, “os byddi di byth mewn trwbwl – rho, rho, rho.”
Yn y dyddiau cynnar wedi i mi adael y ganolfan, pan nad oeddwn i’n teimlo’n rhy dda, mi fyddwn i’n gweithredu ar gyngor Pete drwy sgwennu llythyrau i gadw mewn cysylltiad hefo’r rhai oedd yn y ganolfan yr un pryd â mi. Erbyn i mi orffen sgwennu’r llythyra’, bob tro, mi fyddwn i’n teimlo’n well.
Erbyn hyn rydw i wedi dod i ddeall cyfrinach hapusrwydd. A’r gyfrinach yw – datblygu i fod yn rhoddwr yn hytrach nag yn gymerwr. Rhoi, rhoi, rhoi, fel dwedodd Pete. Ac mae’n gyfrinach rwyt ti yn amlwg wedi’i darganfod.
Felly, chi ddarllenwyr y golofn hon, os ydach chi’n teimlo’n isel, yn pryderu am rywbeth, neu jest yn cael un o’r hen ddyddiau diflas, annifyr yna, meddyliwch am rywbeth – unrhyw beth – fedrwch chi ei wneud i rywun arall. Dw i’n addo y byddwch chitha’ hefyd yn teimlo’n well yn syth. Cofiwch rŵan, cyfrinach hapusrwydd yw datblygu i fod yn rhoddwr yn hytrach nag yn gymerwr. Ond gofalwch bod y rhoi, y math o roi nad oes pris arno – y rhoi o’r hunan i rywun arall. Dyna’r math gorau o roi. Rhoi anhunanol, heb ddisgwyl dim yn ôl. Ac mae rhoi anrhegion da i’ch plant yn sicr yn ffitio’r criteria yna – fel mae codi’r ffôn ar rywun i holi os ydynt yn olreit.
Credoau craidd
Ond pam tybed dy fod ti’n casáu derbyn pethau, a’i fod o’n gneud i ti deimlo’n annifyr? Beth yw gwraidd y negyddiaeth honno? Mae’r ateb yn dy sylw nad wyt ti’n haeddu derbyn pethau a bod ‘euogrwydd yn dy fwyta’n fyw’ pan ti’n cael unrhyw anrheg o bwys, fel set o ffyn golff gan dy wraig, neu air o ganmoliaeth gan dy fos. Dw i’n awgrymu i ti ei fod i’w wneud â’th gredoau craidd.
Mae yna gredoau craidd sydd yn cael eu gosod arnon ni yn ystod y naw mis cyn i ni gael ein geni hyd at chwech oed. Y credoau craidd yma sy’n penderfynu sut ydan ni’n gweld ein hunain a beth ydy ein byd-olwg ni. Ein rhieni, gyda llaw, sy’n gosod y credoau craidd hyn arnon ni. (Fe weli, felly, pam fy mod i’n galw’r rhan fwyaf o’n problemau yn ‘Famyddiaeth’ ac, i raddau llai, ‘Tadyddiaeth’.)
Mae rhywbeth yn digwydd wedyn yn ein harddegau sy’n cadarnhau’r credoau craidd hyn – bwlio, er enghraifft, rhieni’n ysgaru, marwolaeth rhywun annwyl, ac yn y blaen. Yna, o gwmpas deunaw oed, mae rhyw ddigwyddiad, rhyw drawma, rhyw drasiedi, rhyw broblem yn digwydd yn ein bywydau, sy’n concrïtio’r credoau craidd yma yn eu lle. A dyma, wedyn, ydi’r sgript rydan ni yn ei hactio yn ein bywydau – yn aml iawn yn ddiarwybod i ni’n hunain.
Y drafferth yw bod y credoau craidd hyn (yn dy achos di, nad wyt ti’n haeddu derbyn dim o unrhyw werth) yn gallu bod yn negyddol gyda chanlyniadau gwaeth o lawer na’r annifyrrwch rwyt ti’n ei brofi, a gallen nhw fod yn andwyol a difrifol iawn yn ein bywydau.
Fy nghredo graidd i, er enghraifft, oedd bod dim pwrpas i fywyd. Arweiniodd hynny ata i’n meddwl nad oedd dim pwrpas trio gwneud dim byd gyda fy mywyd; hynny’n arwain wedyn at y gred nad oedd dim pwrpas i mi fod ac, yn y diwedd, ata’ i’n trio lladd fy hun. Mae hynny’n eithafol, mi wn. Ond…?
Dyna pam, wrth gwrs, bod rhaid i ni ddarganfod beth ydi’r credoau craidd yma – er mwyn eu newid a gosod arnom ni’n hunain gredoau newydd sy’n gadarnhaol, ac sy’n cynnig inni fywyd sy’n rhydd o bob ymlyniad i ymddygiadau niweidiol a phethau materol, ego-ganolig y byd. Ond drwy adnabod y credoau craidd hyn a’u newid y cawn ein rhyddhau o’u heffeithiau negyddol, niweidiol. Mae’r wybodaeth hynny, bellach, gen ti. Beth, felly, am ddechrau bwydo’r neges gadarnhaol hon i ti dy hun yn ddyddiol er mwyn trawsnewid y ffordd rwyt ti’n gweld dy hun a’th agwedd at fywyd? “Rydw i’n gyflawn, cryf, cariadus, hapus, ac yn byw mewn harmoni â phawb a phopeth; mae gen i iechyd da, digon o egni i gyflawni unrhyw beth, ac rwy’n ddiolchgar am bob rhodd a bendith yn fy mywyd, ac am bopeth a ddaw.”
O wneud hyn, byddi’n gallu derbyn rhoddion gan eraill yn rasol ac yn ddiolchgar a derbyn geiriau o ganmoliaeth garedig hefyd heb drio dibrisio’r ganmoliaeth na’r canmolwr. “Don’t forget that you’re worth it Wynford!” oedd geiriau cwnselydd o Sais wrthyf fi, unwaith. Ac rwyt tithau ‘ei werth o’ hefyd – pob rhodd a chanmoliaeth a ddaw i’th ran gan y rhai sy’n meddwl y byd ohonot ti ac sydd eisiau dangos i ti eu cariad a faint eu meddwl uchel ohonot. Dysga dderbyn y rhoddion hynny gyda gwên a thrwy ddeud “Diolch yn fawr” – ac nid yn anfoddog chwaith, ond gydag egni twymgalon a brwdfrydedd heintus sy’n golygu’r hyn mae’n ddweud. Paid byth â dibrisio’r rhoddwr na’r rhodd. Pob lwc.