Hoffwn ymateb i’r ddau lythyr diweddar [Golwg 18/01/24 a Golwg 25/01/24] ynglŷn â nifer y dosbarthiadau Cymraeg ar-lein ac wyneb yn wyneb. Cytunaf fod angen llawer mwy o ddosbarthiadau Cymraeg wyneb yn wyneb yn y gymuned, ond mae’n bwysig cofio anghenion y rheini sydd, am nifer o resymau, naill yn methu mynychu dosbarthiadau wyneb yn wyneb neu yn dewis peidio.