Mae hi’n wythnos annog pobol i arsylwi’r seren Sirius, y Capella a’r Polaris, a galaeth Andromeda…

Ar drothwy wythnos swyddogol sy’n rhoi’r pwyslais ar y sêr uwchben, mae seryddwyr ar hyd a lled y wlad yn gobeithio y gwneith y cymylau gadw draw er mwyn iddyn nhw gael cip ar rai o ryfeddodau’r nos.