Roeddwn yn cytuno i’r carn gyda llythyr Wyn Thomas, Llan-gain yn rhifyn 11 Ionawr o Golwg. Nid mater yn Sir Gaerfyrddin yn unig yw hyn gyda gormod o dir glas yn diflannu i greu stadau mawr, rhwng 200-500 o dai newydd yn Sir Conwy yn ogystal. Er hyn mae poblogaeth y sir yn lleihau yn ôl Cyfrifiad 2021. Hoffwn dynnu sylw at ddeiseb sydd wedi ei chychwyn er mwyn ceisio lleihau targedau Llywodraeth Cymru yn y siroedd hyn: