Dyma godi’r wal dalu i bawb gael ei ddarllen ar Ddydd Miwsig Cymru


“Mae’n gyfle i fynd allan i ysgolion, yn enwedig ysgolion cyfrwng Saesneg sydd efallai ddim yn gyfarwydd â bandiau ac artistiaid sy’n perfformio yn y Gymraeg…”

 Mae dydd Gwener yr wythnos hon yn ddiwrnod arbennig yng nghalendr y Sîn Roc Gymraeg.

Mae Dydd Miwsig Cymru yn dychwelyd am y nawfed tro, ac fel ar arfer mae digonedd i’w ddisgwyl ar y diwrnod nefolaidd, sef y nawfed o Chwefror.

Miwsig indi, roc, gwerin, hip-hop neu rap – dyma 24 awr o ddathlu’r gerddoriaeth anhygoel sy’n cael ei chreu yma yng ngwlad y gân.

A pha ffordd well o ddathlu na drwy golli dy hun mewn gig? Bydd artistiaid yn teithio i bob cornel o’r wlad i’n diddanu ddydd Gwener, ac yn ôl rhai o drefnwyr y gigs, mae Dydd Miwsig Cymru eleni yn gyfle i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd i ddathlu’r sîn…

20 lleoliad, 10 band, un ddinas

Mae’r dathliadau eisoes wedi dechrau ers tridiau draw yn Abertawe gyda phlant a phobol ifanc y ddinas yn mwynhau’r arlwy sydd wedi ei drefnu gan Fenter Iaith Abertawe.

Er i’r mudiad ddathlu Dydd Miwsig Cymru gyda theithiau yn y gorffennol, dyma’r un fwyaf eto gyda 20 o gigs gan 10 o artistiaid gwahanol.

“Rydym ni wedi gwneud rhyw fath o daith dros y ddwy flynedd diwethaf ond dyma’r daith fwyaf ni wedi gwneud ar gyfer Dydd Miwsig Cymru o bell,” meddai Tomos Jones o Fenter Iaith Abertawe.

“Byddwn ni’n mynd ar daith i amrywiaeth o golegau, ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg a Saesneg, Theatr Taliesin a hefyd cwpl o ddigwyddiadau mewn lleoliadau annibynnol yn y ddinas.

“A byddwn ni’n ymweld ag ysgolion newydd y tro hwn hefyd.”

Gan fod y rhan fwyaf o’r gigs yn cael eu cynnal mewn ysgolion a cholegau, dydyn nhw ddim ar gael i’r cyhoedd. Ond peidiwch â phoeni, mae gan y fenter rhywbeth sbesial ar eich cyfer prynhawn fory (9 Chwefror). Rhwng 12pm a 2pm bydd y gantores Gymreig-Iranaidd, Parisa Fouladi, a’r canwr-cyfansoddwr, Rhiannon O’Connor, yn swyno yng Nghanolfan Celfyddydol Taliesin. Draw yn y Bunkhouse, bydd Osian Williams ar y gitâr gyda Candelas am 1pm. Yna bydd Rhiannon O’Connor yn ymuno â Huw Chiswell draw yn Nhŷ Tawe gyda’r hwyr, ac mae tocynnau ar gael am £10.

Prif fwriad y daith yw rhannu’r arlwy gyda phlant a phobol ifanc y ddinas, ond mae’r fenter yn gobeithio y bydd y dathliadau yn cyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfa newydd.

“Y peth mawr gyda’r wythnos yw trio cael cymaint o bobol ag sydd bosib i fwynhau’r gerddoriaeth,” meddai Tomos.

“Mae’n gyfle i fynd allan i ysgolion, yn enwedig ysgolion cyfrwng Saesneg sydd efallai ddim yn gyfarwydd â bandiau ac artistiaid sy’n perfformio yn y Gymraeg.

“Mae’n gyfle da i ddod at ei gilydd fel ysgol gyfan i fwynhau’r gerddoriaeth a dawnsio. A’r neges yw bod pawb yn gallu mwynhau’r iaith, hyd yn oed efallai os nad ydyn nhw’n siarad yr iaith ar hyn o bryd.

“Rydym ni eisiau dangos fod y Gymraeg yn agored ac mae e i bawb.

“Mae’n rhywbeth gall bawb ei fwynhau.”

“Creu awyrgylch groesawgar”

 Draw yn y gogledd ddwyrain mae’r dathliadau’n parhau gyda deuddydd o gerddoriaeth ar draws dinas Wrecsam. Trwy gydweithio rhwng trefnwyr lleoliadau annibynnol y ddinas, Focus Wales a’r cyngor sir, bydd tair gig, noson meic agored a chyfle i fwynhau – neu ddiawlio! – wrth wylio ail gêm y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr bnawn Sadwrn.

“Be rydan ni’n trio’i wneud ydy creu awyrgylch groesawgar i bobol allu dod a chael y profiad o gerddoriaeth Cymraeg yn Wrecsam,” meddai Neal, cyd-sefydlydd gŵyl Focus Wales.

“Rydan ni eisiau annog pobol i fod eisiau ffeindio ychydig bach mwy allan am gerddoriaeth Cymraeg, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg.

“Mae angen dangos bod Wrecsam – er bod pobol efallai ddim yn meddwl ei fod o – yn le reit Gymraeg, ac mae yna sîn gref yma.

“Os ydy pobol yn siarad Cymraeg neu beidio, mae Cymreictod i’w deimlo yma, ac mae yna ddiwylliant Cymraeg prysur yma.

“Mae Dydd Miwsig Cymru yn gyfle gwych i ddangos hyn i bobol, eu hannog nhw i gymryd rhan, a rhoi blas o’r gerddoriaeth a’r diwylliant.”

Bydd pob digwyddiad yn rhad ac am ddim dros y penwythnos, oni bai am gig Dafydd Iwan yn y Saith Seren nos Wener.

“Mae’r gobaith o geisio agor y sîn i fyny i bawb gael mewnwelediad yn cael ei adlewyrchu yn rhaglen y penwythnos,” meddai Neal.

“Mae pob artist o Gymru, ond dydy pob artist ddim yn perfformio 100% yn y Gymraeg, ac mae hwnna ar bwrpas.

“Felly yn nigwyddiad Focus Wales yn y Parish nos Wener, bydd cymysgedd – mae gennym ni Endaf, Ffenest, ac Eädyth – sy’n gwneud stwff dwyieithog– a hefyd Baby Brave sy’n fand lleol sy’n canu’n Saesneg.

“Ar y dydd Sadwrn, rydan ni’n dod ag elfennau gwahanol o ddiwylliant Cymru i mewn i’r dathliad, felly rydan ni’n cymryd mantais o’r Chwe Gwlad yn dechrau draw yn Nhŷ Pawb.

“A rhyngom ni – Focus Wales – Cyngor [Sir] Wrecsam a Thŷ Pawb, rydan ni wedi bwcio Worldcub, Hazmat, Gillie, Eye a Siula ar gyfer y nos Sadwrn ar ôl y gêm.”

Gyda’r brifwyl ar ei ffordd i Wrecsam yn 2025, mae Dydd Miwsig Cymru hefyd yn gyfle i arddangos y Cymreictod sydd i’w deimlo yn yr ardal, meddai Neal.

“Mae angen cael dros y syniad bod yr Eisteddfod ddim yn ymweld â rhywle sy’n ardal Cymraeg yn 2025, achos mae o!

“Mae Dydd Miwsig Cymru yn gyfle i ddangos fod yna sîn rili cryf o gwmpas fan hyn.

“Petai bobol yn treulio ychydig o amser yma, byddan nhw’n ffeindio’r sîn Gymraeg sy’n bodoli yma.”

Helpu’r Eisteddfod

Gig sy’n lladd dau aderyn â’r un garreg ym mhrif hwb y sîn yn Wrecsam, tafarn y Saith Seren, yw gig mawr y penwythnos yn y gogledd ddwyrain – Dafydd Iwan!

Chris Evans yw’r un a ddechreuodd yr ymgyrch i achub y tŷ potas yn 2015 a’i throi’n dafarn gymunedol, a theg felly yw mai ef yw cadeirydd y dafarn. Ar ben hynny, Chris yw Cadeirydd y Gronfa Leol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn 2025. Felly, bydd pob elw o’r 120 o docynnau sydd wedi gwerthu allan yn mynd tuag at y Gronfa Leol.

“Mae gen i ddwy het, fel petai,” meddai Chris.

“Mi fydd o’n noson dda i Saith Seren – mi wnawn ni’n dda y tu ôl i’r bar – ac wedyn fydd hi hefyd yn noson dda ar gyfer lansio cronfa leol Eisteddfod Genedlaethol 2025.

“Bydd hi’n noson dda iawn yn ariannol i Eisteddfod Genedlaethol 2025 achos mae’r holl elw o’r tocynnau yn mynd i’r Eisteddfod, felly bydd swm sylweddol sydd ymhell dros fil o bunnoedd wedi’i godi i’r gronfa.

“Bydd y gig yn rhoi dechrau da iawn i ni.

“A bydd o’n noson dda iawn i’r gynulleidfa – maen nhw’n gwybod eu bod nhw am gael noson dda yn Saith Seren.”

Er bod Dafydd Iwan yn gigio yn y Saith Seren yn flynyddol, mae diolch mawr i Ddydd Miwsig Cymru – sy’n fenter gan Lywodraeth Cymru – fod Chris wedi gallu ei ddenu draw i ganu nos Wener.

“Mae’n rhaid i fi ganu clod i Ddydd Miwsig Cymru achos pan wnes i egluro iddyn nhw ein bod ni’n gobeithio codi swm reit fawr ar gyfer yr Eisteddfod gyda’r gig yma, fe wnaethon nhw gynyddu’r nawdd roedden nhw’n ei roi, chwarae teg iddyn nhw.

“Mae’r nawdd gan Ddydd Miwsig Cymru wedi caniatáu i ni gael rhywun sy’n gymharol ddrud.”

Yn ôl Chris, mae’n braf gweld cymaint o bobol ifanc yn mynychu gigs yn y Saith Seren, a bydd gig Dafydd Iwan yn siawns i apelio at gynulleidfa eang gan gynnwys yr ieuenctid.

“Mae criw o’r chweched o Ysgol Morgan Llwyd wedi bod yn dod i’r Saith Seren dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n debyg y bydd dipyn o rai ifanc yn dod i weld Dafydd Iwan – mae’r apêl yno ar draws yr oedrannau.”