Dyma godi’r wal dalu i bawb gael ei ddarllen ar Ddydd Miwsig Cymru
Y cyflwynydd radio 42 oed o Gaerdydd yw’r llais diweddaraf i ymuno gyda BBC Radio 6 Music.
Mae ganddo raglen newydd ar yr orsaf sydd ymlaen yn y prynhawn rhwng pedwar a saith o ddydd Mawrth i Wener.
Bydd yn parhau i gyflwyno ei raglen wythnosol ar BBC Radio Wales bob nos Lun, a’i raglen Gymraeg ar BBC Radio Cymru bob nos Iau.
Ar ôl blynyddoedd yn teithio rhwng Llundain a Chaerdydd, symudodd yn ôl i’r brifddinas i fagu teulu gyda’i wraig, Sara…
Beth oedd eich gwaith cyntaf yn y byd radio?
Wnes i ddechrau yn y byd radio gyda sianel radio Rockwood Sound yn ysbyty Rockwood yn Llandaf yng Nghaerdydd pan o’n i’n 15 oed. Ro’n i’n gwirfoddoli yn fan yna.
Ar yr un pryd, ro’n i ateb y ffonau i Radio Cymru ar gyfer eu rhaglenni. Ond ar radio’r ysbyty wnes i ddysgu sut i redeg rhaglenni radio.
Oeddech chi wastad yn gwybod mai dyma oeddech chi eisiau’i wneud?
Pan o’n i’n tua 14 neu 15 wnes i ddarganfod cerddoriaeth a’r radio a phenderfynu mai radio o’n i eisiau gwneud fel gyrfa.
Dwy flynedd yn ddiweddarach, chi oedd y cyflwynydd ieuengaf erioed i ymuno â BBC Radio 1 yn 17 oed. Sut deimlad oedd hynny?
Roedd o’n deimlad cyffrous. Doeddwn i methu credu’n lwc i fod yn onest!
Beth allwn ni ddisgwyl o’ch rhaglen newydd ar BBC Radio 6 Music?
Mae gennym ni sesiynau byw, cwis bob dydd a chyfweliadau gyda bandiau newydd ac enwau mawr. Felly lot o gyfweliadau, ond lot o gerddoriaeth o bob genre. Mae’r rhaglenni yn llawn dop.
Sut brofiad oedd cyfweld yr artist Americanaidd, Beck?
Beck oedd gwestai cyntaf y rhaglen ac roedd o’n wych i fod yn onest. Roedd o’n hyfryd. Roedd gyda fo lot o amser ar ein cyfer ni er nad oedd o yno i blygio dim byd. Roedd e jest yn hapus i siarad.
Roedden ni wedi cwrdd cyn hynny yng ngŵyl Glastonbury rhyw dro, a ro’n i wedi ei gyfweld e yn stiwdio Maida Vale un tro hefyd. Felly dyma oedd y trydydd tro i mi gwrdd â fo.
Ble fuoch chi ar eich taith ar gyfer Independent Venue Week?
Buon ni yn y Rocking Chair yn Wrecsam, Caer Efrog, Hull a Chaeredin wythnos diwethaf gyda’r tour bus, a’r pwynt oedd dathlu’r holl leoliadau annibynnol a’r holl sîns cerddoriaeth yn y trefi a’r dinasoedd wnaethon ni alw ynddyn nhw.
Wnaethon ni ddarlledu o’r bws felly roedd y bws wedi’i lincio fyny gyda’r system ac yn darlledu o reit y tu allan i’r lleoliadau yma. Roedd y bandiau yn dod ar y bws i berfformio setiau byw.
Pa mor bwysig ydy parhau i gefnogi lleoliadau annibynnol?
Mae’n hollbwysig bod y lleoliadau annibynnol yma’n derbyn cefnogaeth. Mae’n amser anodd iawn i dafarndai, bwytai a llefydd gigs ar y foment ac mae lot ohonyn nhw’n cau achos dydyn nhw jest methu fforddio bod ar agor. Mae llefydd gigs yn llefydd pwysig – dyma le mae bandiau ifanc yn chwarae a dyma le mae pobol yn cael nosweithiau allan da. Mae o’n bwysig iawn i edrych ar eu holau nhw.
Hoff beth am weithio yn y byd radio?
Dw i’n caru cyflymder radio. Os ydych chi’n cael syniad, rydych chi’n gallu gwneud e ar y radio mewn pum munud. Yn y byd teledu, mae’n gallu cymryd pum mlynedd i’r syniad yna gyrraedd y sgrin. Felly mae gallu gwneud e’n uniongyrchol ac yn syth yn beth grêt.
Dw i jest wastad wedi caru radio felly mae cael gwneud e fel swydd yn anhygoel.
Beth yw eich atgof cynta’?
Dad yn dod adref o’r ysbyty wedi cael damwain ble wnaeth yna geffyl fynd trwy ffenest y car ar y ffordd i Bontypridd. A dw i’n cofio Dad yn dod adref yn ei wddfwisg gyda darnau bach o waed ble’r oedd y gwydr wedi mynd i mewn i’w groen.
Ges i fagwraeth hyfryd. Ges i fy ngeni, magu, a dw i dal i fyw yno yng Nghaerdydd. Es i ffwrdd am dipyn bach – ro’n i’n byw rhwng Caerdydd a Llundain am 10 mlynedd – ac wedyn symudais adref i Gaerdydd, i ardal Eglwys Newydd.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Dw i’n cerdded i’r siop chips ac yn ôl o leiaf unwaith yr wythnos.
Beth sy’n eich gwylltio?
Anghyfiawnder o bob math o amgylch y byd.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Dw i’n meddwl byswn i’n cael cyri enfawr gyda phopeth o’r fwydlen a byswn i’n gwahodd Johnny Cash, David Attenborough a… Sali Mali. Rydan ni – fi a fy mab ieuengaf, Llew – yn darllen stori Sali Mali bob nos cyn mynd i gysgu ar y foment, felly bysa rhaid ei gwahodd hi.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
‘Mae’n rhaid i fi gofio gwneud hyn.’
Fi wedi cyrraedd yr oed nawr ble mae’n rhaid i fi sgrifennu pethau i lawr yn fy ffôn i fi gofio gwneud nhw.
Hoff ŵyl?
Dw i’n ffodus fy mod i’n cael gweithio yn Glastonbury ac mae’n ŵyl gwbl unigryw. Mae gwylio fe ar y teledu yn hwyl ac yn grêt ond mae mynd yno a cholli’ch hun am y penwythnos yn anhygoel.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Os dw i’n galw rhywun yn yr enw anghywir, mae hwnna’n achosi embaras i fi.
Wnes i alw cerddor enwog yn yr enw anghywir yn fyw ar BBC Radio 2 unwaith. Roedd o’n gamgymeriad ond wnaeth o achosi lot o embaras i fi.
Gwyliau gorau i chi fwynhau?
Es i a fy ngwraig, Sara, i America ar ôl priodi a wnaethon ni yrru o San Francisco i lawr i Los Angeles. Gaethon ni amser gwych.
Doeddwn i erioed wedi gyrru o’r blaen, felly gyrru yn America ar y gwyliau yna oedd y tro cyntaf i fi yrru.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Ar y foment, stormydd.
Hoff ddiod feddwol?
Dydw i heb yfed ers wyth mlynedd, felly Guinness 0% ydy fy narganfyddiad diweddaraf yn y byd diod heb alcohol, a hwnnw ydy fy hoff ddiod ar y foment. Mae’n neis iawn.
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
I fi, unrhyw beth sy’n ymwneud efo cerddoriaeth. Dw i’n dueddol o ddarllen am gerddoriaeth yn unig. Ond y llyfr cerddoriaeth gorau dw i erioed wedi’i ddarllen ydy Our Band Could Be Your Life gan Michael Azzerad. Mae o’n llyfr hollol anhygoel am y sîn danddaearol yn America. Ond mae unrhyw lyfr am gerddoriaeth yn fy ngwneud i’n hapus.
Hoff albwm?
Mae’n newid yn ddyddiol achos dw i’n gwrando ar gymaint o gerddoriaeth, felly, un heddiw ydy Bolmynydd gan Pys Melyn. Ond fory… rhywbeth hollol wahanol.
Sut fyddwch chi’n dathlu Dydd Miwsig Cymru?
Mae yna gig gwych yng Nghlwb Ifor Bach sy’n cynnwys Kim Hon, Pys Melyn, Cyn Cwsg, dw i’n gobeithio mynd iddo fo.