Llwydaidd a di-derfyn, y siopau’n llawn geriach sgleiniog coch, a phob diwrnod yn plethu mewn i’r llall mewn cawdel diog o special offers a ffilmiau nawddoglyd. Ryden ni ynddi – ‘betwixtmas’ rhamant – y cyfnod llafurus rhwng Dwynwen a Ffolant.