Fe gafodd Ivan Toney groeso mawr gan gefnogwyr Brentford ar ôl dychwelyd wedi gwaharddiad hir tros y penwythnos. Cafwyd yr ymosodwr yn euog o fetio 232 o weithiau rhwng 2017 a 2021. Roedd yr achosion yn cynnwys Toney yn betio bod ei dîm ei hun yn ennill a cholli. Yn wreiddiol fe gafodd ei wahardd am 15 mis, ond cafodd ddiagnosis ei fod yn gaeth i gamblo, ac oherwydd hynny fe gafodd y gosb ei lleihau i wyth mis.