Yn gartref i’r barcud coch ac yn borth i Gwm Elan a mynyddoedd yr Elenydd, mae tref Rhaeadr Gwy wedi ail-frandio ei hun yn ‘Brifddinas Awyr Agored Cymru’.

Mae criw lleol sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers pum mlynedd i greu hunaniaeth amlwg i’r dref ym Mhowys yn awyddus i gryfhau’r hyn sydd ar gael i ymwelwyr, tra hefyd yn gwarchod eu cymuned.