Ers dod yn hyfforddwr bywyd bum mlynedd yn ôl, mae Catrin Atkins wedi helpu dwsinau o fenywod i boeni llai a chael mwy allan o’u bywydau bob dydd.

Boed hynny drwy newid gyrfa neu wella’u hyder, gwaith Catrin ydy rhoi’r arfau i rywun sylwi eu bod nhw’n gallu ymdopi â pha bynnag sefyllfa sy’n eu herio.

Cyn dod yn hyfforddwr bywyd yn 2019, bu Catrin yn ennill ei bara menyn am gyfnod yn y cyfryngau, yn tempio mewn swyddfeydd ac yna gweithio i gwmni technoleg ei gŵr, Dan.