Mae gyrfa digrifwr o Geredigion yn mynd o nerth i nerth, ac mae’n anelu at wneud ei ‘awr lawn gyntaf’ o stand-yp …

Mae’r gystadleuaeth ‘So you think you’re funny?’ yng ngŵyl Ffrinj Caeredin yn mynd ers yr 1980au, ac yn gyfrifol am danio gyrfa llawer iawn o enwogion y sîn gomedi Brydeinig. Mawrion fel Peter Kaye, Dylan Moran, Rhod Gilbert, Lee Mack, Johnny Vegas, Graham Norton, ac Aisling Bea i enwi ond rhai ohonyn nhw.