Wedi toriad o bron i draean i’w cyflogau mewn termau real, mae meddygon iau Cymru wedi cael llond bol…

Yr wythnos hon bu miloedd o feddygon iau Cymru ar streic am 72 awr wrth iddyn nhw brotestio dros fwy o gyflog.

Caiff meddygon iau yng Nghymru eu talu cyn lleied â £13.65 yr awr ar gychwyn eu gyrfa, a hynny am weithio shifftiau dydd a nos.

Ac mewn termau real, mae meddygon iau wedi gweld toriad cyflog o 29.6% ers 2008.