Mae’n naturiol – os rhagrithiol – fod gwleidyddion eisiau gweithredu’n gyflym yn sgil y ddrama am sgandal Swyddfa’r Post (wedi’r cyfan, mae yna etholiad yn y gwynt), ond peth peryglus ydi gwanhau’r system gyfiawnder gyfan er mwyn cywiro un cam.

Mae pasio deddf i ddadwneud cannoedd o benderfyniadau llys yn anghywir, nid yn unig o ran yr egwyddor gyffredinol ond hefyd o ran cyfiawnder i’r isbostfeistri unigol.