Blwyddyn Newydd Dda gyfeillion!

Rwy’n dechrau’r flwyddyn newydd yng Nghymru, a hynny yn ardal y Sblot yng Nghaerdydd, yn byw gyda chynhyrchydd ffilmiau cymunedol a’i chath ddu, Arlo. Bob bore rwy’n cerdded o’r Sblot i Theatr y Sherman, ac yna rwy’n cwrdd â fy nhîm ar gyfer y sioe Feral Monster rwy’n ei chyfarwyddo ar y foment ar gyfer National Theatr Wales.