Yr actor 32 oed o Fangor yw seren y gyfres newydd Bariau ar S4C ble rydyn yn dilyn bywyd Barry Hardy o Rownd a Rownd yn y carchar.
Pan nad ydy’r actor o flaen y camera, mae yn cyfarwyddo Rownd a Rownd ac yn cyd-redeg cwmni cynhyrchu rhaglenni dogfen, Docshed yn y Felinheli, a enillodd wobr BAFTA Cymru am ddrama ddogfen yn adrodd hanes ficer go anarferol…
Beth allwn ni ddisgwyl o’r gyfres Bariau?
O’r ymateb hyd yn hyn, mae o’n gyfres sy’n bosib binjo, llawn hooks a cliffhangers. Mae’n gyfres efo perfformiadau anhygoel gan actorion dawnus fel Annes Elwy, Glyn Pritchard, Rolant Prys, Adam Woodward a Bill Skinner. Mae llwyth o emosiwn, hiwmor, trais a rhegi. Mae’r gyfres wedi cael ei chyfarwyddo a’i golygu’n wych ac mae’r dub yn briliant hefyd, ac wrth gwrs, mae’r cinematography yn ddeniadol.
Sut mae persbectif Barry Hardy ar fywyd yn newid tra yn y carchar?
Er fy mod i’n portreadu’r un cymeriad ag ydw i wedi’i wneud dros yr ugain mlynedd ddiwethaf [yn Rownd a Rownd], mi ydw i’n gweld y Barry yma fel cymeriad newydd. Heb anghofio am ei hanes o efallai, ond wrth gofio ei fod o mewn amgylchiadau cwbl estron gyda phobol newydd, roedd o’n gyfle i ail-edrych ar Barry fel dyn. Dwn i ddim os mai gweld ochr newydd fydd y gynulleidfa, ond dw i yn gweld dyn yn cwffio gyda’r hyn sydd yn dod yn naturiol iddo.
Oedd yna ddipyn o baratoi cyn dechrau ar y gwaith o ffilmio’r ddrama am fywyd dan glo?
Buon ni’n ffodus iawn i gael cyfarfod â chyn-garcharorion, swyddogion carchar a gwahanol bobol yn y maes fel rhan o’r gwaith ymchwil. Wrth gwrs, fe fuon ni’n gwylio a darllen llwyth hefyd, ond yr un neges oedden ni’n cael gan bawb – does dim byd heblaw y gyfres Time efallai wedi llwyddo i fod yn accurate i fyd carchar go-iawn. O’r ymateb dw i wedi’i weld a’i glywed hyd yn hyn, mae’n edrych fel bod y gyfres yma wedi llwyddo lle mae eraill wedi methu.
Fe wnaeth eich cwmni cynhyrchu, Docshed, greu’r ddrama ddogfen Y Parchedig Emyr Ddrwg yn 2022. Mae’n adrodd hanes ficar gafodd garchar am dorri pidynnau oddi ar gyrff y meirw yn y 1980au… faint oeddech chi’n gwybod am yr hanes cyn cychwyn creu’r ddogfen?
Fe gafodd Docshed ei sefydlu yn 2019 i wneud yr un comisiwn yma, ond yn anffodus – oherwydd Covid a phroblemau gyda dosbarthwyr – roedd hi’n dair blynedd erbyn i ni ryddhau Y Parchedig Emyr Ddrwg. Peth da oedd o yn y bôn. Roedd yr amser ychwanegol yma’n golygu mwy o waith ymchwil a thrafod ddaru gyfoethogi’r ddogfen.
Rhys, fy mhartner busnes, ddaru sôn am y stori yn wreiddiol a finnau wedi clywed ryw fersiwn yn y dafarn. O fewn dim, mi’r oeddwn wedi llwyddo i gael gafael ar y ffeiliau cwrt a sylwon ni’n syth bod mwy i’r stori yma na’r stori fytholegol yn y dafarn.
Sut deimlad oedd ennill gwobr BAFTA am y rhaglen ddogfen orau yn 2022?
Uchafbwynt fy ngyrfa hyd yn hyn oedd ennill y BAFTA Cymru, er mae Bariau yn agos ati hefyd. Mae cael gwobr fel BAFTA a chlod gan gyfoedion yn y maes yn golygu lot. Mi’r oedden ni’n gweld hwn fel cyfle da i’r cwmni ac i ni fel unigolion i brofi ein gallu yn ein blwyddyn gyntaf yn gweithio’n llawn amser i Docshed.
Yn anffodus, tydi’r flwyddyn yn dilyn curo’r BAFTA ddim wedi bod mor llewyrchus ag y gobeithion ni. Ond mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i’r diwydiant, yn enwedig yma yng Nghymru, dybiwn i. Ar ddechrau blwyddyn fel hyn, mae ein gobeithion i Docshed yn llawn brwdfrydedd, a gobeithio y cawn ni greu dogfennau premiwm flwyddyn yma eto wrth i’r gwch hwylio i ddyfroedd tawelach.
Yw eich diddordeb mewn ffotograffiaeth wedi tyfu ers bod gydag eich partner, y ffotograffydd, Kristina Banholzer?
Yn sicr, ac mae o wedi bod o help mawr tra dwi wrthi’n cyfarwyddo. Mae nifer o lyfrau ffotograffiaeth ar ein silffoedd sydd wastad yn ysbrydoli.
Sut blentyndod gawsoch chi?
Ges i fagwraeth freintiedig. Bues i’n lwcus iawn i gael mynd ar nifer o wyliau bythgofiadwy a chael profiadau unigryw ac mae gen i atgofion melys o fod yn nhŷ nain a taid yn Rhydu-chaf [ger y Bala]. Fedra i fapio’r tŷ hwnnw – yr hen siop bost – i’r manylyn lleiaf, er nad ydw i wedi bod yno ers i mi fod yn bedair oed, efallai.
Beth yw eich ofn mwya’?
Colli allan.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Nofio, rhedeg a mynd i godi pwysau.
Dw i’n gobeithio ail-afael ar bêl-droed eleni – pump bob ochr wrth gwrs… Dydy fy mhengliniau i ddim digon da i gae maint llawn!
Beth sy’n eich gwylltio?
Fedrwn i sgrifennu colofn wythnosol i chi ar bethau penodol ofnadwy sy’n fy ngwylltio i!
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Be am Malcolm Gladwell? Mae o’n dda am gael pobol i drafod. Fysa cael chef yn syniad da hefyd, a master sommelier? A rhywun sy’n dda am adrodd stori ddoniol wrth gwrs.
Ac fel gwledd fyswn i eisio mynd i Noma yn Copenhagen a bwyta’r cyrsiau gora’ fuodd ar y fwydlen rhwng 2010 a 2012. Ydy hynny’n ddigon pretentious?
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Ia, cŵl.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Wnes i’n ddiweddar ofyn i gydweithiwr ar y pryd sut oedd ei fiancé o… Roedden nhw wedi gwahanu ers tair blynedd. Roedd hwnna’n boenus.
Gwyliau gorau?
Buon ni’n Copenhagen y llynedd fel teulu a chafodd y gwyliau yna effaith mawr arna i o ran sut ddylien ni fod yn byw, a sut mae’n bosib trawsnewid dinas neu agwedd gwlad mewn cyn lleied o flynyddoedd. Roedd o’n un o’r wythnosau prin yna hefyd lle ddaru bob dim jest gweithio – dim salwch, dim trafferthion, a dim camgymeriadau… sydd yn beth prin efo dau blentyn ifanc!
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Gwaith! Gwirion dw i’n gwybod, ond mae pawb yn euog o hyn beryg.
Hoff ddiod feddwol?
Mae’n amhosib dewis. Dw i’n licio barraquito ar foreau oer, neu mimosa efo fy mrecwast ar fore braf. Mae espresso a [brandi] calvados amser paned bore yn un o bleserau gorau’r byd. Peint oer o lager yn yr haf, neu seidr ar ddiwrnod tanbaid. Guinness ar ddiwrnod oer, neu pan mae angen yfed drwy’r dydd. Gwin gwyn unrhyw bryd, coch o flaen y tân. Mojito ar wyliau poeth, ac Old Fashioned ar wyliau dinas. Wisgi’n hwyr yn y nos efo ffrindiau. I ddyfynnu David Brent o The Office: “Different drinks for different… needs.”
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Jupiter’s Travels gan Ted Simon. Efallai nid hwn ydy’r difyrraf, ond yr un sydd wedi cael y fwya’ o effaith arna i.
Hoff air?
Ddaru fy nhad gael y cwestiwn yma pan oedd o’n newyddiadurwr i’r Weekly News… Ei ateb o oedd ‘cei’. Rydan ni’n dal i dynnu arno fo am yr ateb dychrynllyd a cheesy yna!
Hoff albwm?
Ar y funud, Like a Ship (Without a Sail) gan Pastor T. L. Barrett and the Youth for Christ Choir.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Mae pasta yn well os ydy o’n cael ei ferwi mewn dŵr mor hallt â’r môr.
Mae Bariau ar S4C ar nos Fercher am naw a’r holl benodau ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a’r BBC iPlayer