Mae Charlotte Church wedi lleisio ffilm newydd sy’n honni mai un o drefi Powys yw ‘Prifddinas Awyr Agored Cymru’.

Y bwriad yw hyrwyddo Rhaeadr fel cyrchfan berffaith ar gyfer awyr iach a golygfeydd godidog, megis yr argae yng Nghwm Elan sydd rhyw chwe milltir o’r dref.

 hithau yn adnabyddus fel un o ferched enwocaf Caerdydd, mae Charlotte Church yn rhedeg llety iachau o’r enw The Dreaming ar gyrion Rhaeadr.