Aeth Non Tudur i holi ambell un am eu huchafbwyntiau celfyddydol eleni…

Eiry Palfrey, awdur

Ces flas mawr ar y nofel Capten, Meinir Pierce Jones (Gwasg y Bwthyn). Stori afaelgar, gyda chymeriadau credadwy a difyr, ac mi ddysgais gymaint am fywyd ar y môr. Ac yn Eisteddfod Boduan daeth yr ardal yn fyw o flaen fy llygaid.