Dw i newydd ddychwelyd o Farbados ac er fy mod nôl ar dir cyfarwydd mae fy meddyliau o hyd efo’r Ynys yn nwyrain y Caribî.

Yn ystod fy nhaith wnes i ddwyn ar y cyfle i fynd ar fws o amgylch arfordir y wlad. Roedd arweinydd Bajan y daith yn tynnu ein sylw at bob math o bethau; byd natur, adeiladau, henebion ac ati, gan esbonio eu harwyddocâd.