Wrth i flwyddyn arall ddod i ben, go brin fod S4C wedi cael un mor gythryblus â hon yn neugain mlynedd flaenorol ei bodolaeth. Mae ein sianel genedlaethol wedi bod yn y penawdau am y rhesymau anghywir i gyd dros y deuddeg mis diwethaf. Mae hi’n ymddangos fod pethau’n siamblys llwyr yn y cefndir, ond go-iawn, dw i’n meddwl mai’r hyn sydd o ddiddordeb i’r mwyafrif o bobl yw’r hyn sydd i’w weld ar y sgrîn.