Ymhen blynyddoedd, mi fydd haneswyr yn edrych yn ôl yn llawn rhyfeddod ar helyntion polisi Rwanda. Ac mae’n siŵr y bydd ganddyn nhw enw bachog ar y cyfan – ‘Rwtsh Rwanda’ neu ‘Rwdlan Rwanda’ neu rywbeth tebyg.

Hyd yn oed â ninnau ynghanol y gwallgofrwydd, mae’n anodd deall sut y daeth un polisi mor gyfyng, mor ddibwys, i reoli gwleidyddiaeth y dydd a chreu embaras – os nad peryg marwol – i Brif Weinidog a llywodraeth.