Mae un o glasuron y gegin Gymreig wedi ffeindio’i ffordd fewn i ddarn o gig go arbennig.
Syniad y cigydd Ieuan Edwards oedd croes-beillio’i selsig gyda Bara Brith i greu’r cyfuniad cigyddol sy’n cael ei adnabod fel “Y Sosij Mwyaf Cymreig Erioed”.
“Fe aethon ni â rhywfaint i lawr i’r Ffair Aeaf yn Llanfair-ym-muallt lle cynhaliwyd rhai sesiynau blasu,” eglura Ieuan, “ac rwy’n falch o ddweud i’r ymateb fod yn gadarnhaol iawn.”
Mae ei gwmni Edwards o Gonwy yn cyflogi 90 o weithwyr ac wedi cyrraedd carreg filltir go nobl eleni.
“Mae lansio selsig Bara Brith yn ffordd ddelfrydol o ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu’r busnes,” meddai Ieuan, “oherwydd ein bod yn falch iawn o’n treftadaeth Gymreig ac o aros yn driw i’n gwerthoedd a’n sgiliau craidd fel cigyddion o ansawdd uchel.”