Mae galwad am lacio’r meini prawf ar gyfer cymorth i ofalwyr di-dâl wrth i nifer helaeth fethu prynu nwyddau hanfodol na gweld eu teulu a’u ffrindiau…

Ledled Cymru mae miloedd o bobl yn ofalwyr di-dâl, a nhw yw’r rhai sy’n darparu gofal a chymorth i oedolion a phlant sydd angen help oherwydd salwch, anabledd, cyflwr hirdymor, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth.