Pan dwi’n ysgrifennu 2050, be sy’n dod i’r meddwl?

Beth am filiwn o siaradwyr Cymraeg? Ar wahân i ‘Cofiwch Dryweryn’, does dim llawer o slogans gwleidyddol Cymreig sydd wedi gwreiddio cystal yn y dychymyg â ‘Chymraeg 2050: miliwn o siaradwyr’.

(Fe gafodd adroddiad Cymraeg 2050 ei gyhoeddi yn 2017).

Mae yna demtasiwn i feddwl bod 2050 yn ddyddiad sydd yn bell i ffwrdd yn y dyfodol, ond wedyn pan dw i’n craffu ar y dyddiad yn fwy gofalus, teimla’r dyddiad yn agosach ataf.