Creu mygiau ffynci, lliwgar a chwareus ydy nod crochenydd o Ben-y-bont ar Ogwr.

Disgynnodd Angharad Reed mewn cariad â chreu crochenwaith ar ôl mynd i ambell ddosbarth yn Llundain, ac er iddo ddechrau fel hobi, mae hi bellach yn rhedeg ei chwmni ei hun, Crock-Â-Shwt.

Breninesau drag a chowbois gafodd y sylw cychwynnol ar ddarnau Angharad, sydd wrth ei bodd â ffilmiau cowbois. Erbyn hyn, mae cerfiadau o lwyau caru a byd natur i’w gweld yn amlach ar y darnau hwyliog.