“Un o uchafbwyntiau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni oedd y gystadleuaeth cyfansoddi soned…”

Fe fydd digwyddiad llenyddol yn Sir Benfro ar derfyn yr wythnos hon yn trafod soned gan Alan Llwyd, ‘Ffenestr’ – sy’n deyrnged i’r bardd a heddychwr Waldo Williams.

Daeth hi’n drydydd yng nghystadleuaeth y Soned yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 – yn rhyfeddol, Alan Llwyd oedd bardd y tair soned ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth.