Mae menywod y maes technolegol yn dod ynghyd i bwyso am fwy o barch yn y gweithle…

Yn aml, caiff y diwydiant seibr ei ystyried fel rhywle i ddynion ac mae nifer y menywod yn y maes wedi gostwng yn y flwyddyn ddiwethaf.

Ac mae tri chwarter y merched sydd yn gwneud y math yma o waith yn dweud eu bod wedi wynebu rhagfarn ar sail eu rhyw.

Ond mae Clare Johnson, sylfaenydd a chyfarwyddwr Menywod Mewn Seibr Cymru, eisiau denu mwy o ferched i’r diwydiant.