Pe byddech wedi darllen fy nghyfweliad gyda Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, fe fyddech wedi gweld nad yw 20% o drigolion y ddinas yn wyn – a bod y ganran yn uwch ymhlith y rheini o dan 35 oed.

Mae hyn yn ddiddorol, onid yw? Caerdydd yw prifddinas Cymru – a digon rhesymol yw ystyried a fyddai’r newid hwn, o’i ymestyn ar draws Cymru, yn newid cymeriad Cymru? A beth yw’r cymeriad hwnnw?