Mae Duolingo, yr ap dysgu ieithoedd poblogaidd, wedi cyhoeddi eu bod am roi’r gorau i ddiweddaru’r cwrs Cymraeg sy’n cael ei gynnig arno. Cafwyd mymryn o orymateb i hyn. Y gwir ydi bydd y cwrs cyflawn sydd ohono’n dal ar gael i bawb, gan barhau i fod yn adnodd ychwanegol wrth ddysgu iaith i filoedd o bobl. Ond mae’n bwysig cofio mai dyna ydi Duo a’i dylluan, ategiad. Sylwais wythnos diwethaf bod yr ap ar gyfer dysgu Eidaleg gen i ers 2013, a fedra i ddim honni mewn degawd o ddefnydd anghyson bod