Efallai fod o yn rhywbeth ‘gogledd Cymru’. Heb os, bu dinasoedd Lerpwl a Manceinion yn ddylanwad diwylliannol mawr ar nifer ohonom o ddiwedd y 1970au a drwy’r 80au a’r 90au. Efallai ei bod hi dal felly, ond ddim am yr un rhesymau. Tydi Factory Records, Joy Division, New Order, yr Haçienda neu Erics, Probe, Echo and the Bunnymen a Zoo Records ddim cweit yr un peth erbyn heddiw.