Gwyliais raglen The Big Vape ar Netflix am gwmni e-sigarét Americanaidd o’r enw Juul a aeth i drafferth wedi iddo farchnata’r cynnyrch i’r ieuenctid; derbyniwyd adlach gyhoeddus ar ôl i America brofi twf enfawr ym mhlant oedran ysgol yn smygu e-sigarét.

Dysgais am e-sigarennau am y tro cyntaf tra’r oeddwn yn y Coleg ac mi’r oeddwn yn obeithiol y gallai’r e-sigarét fy rhyddhau o fy nghaethiwed i sigarennau go-iawn.