Waeth i mi fod yn onest ddim, roedd gen i un rheswm penodol iawn dros wylio LŴP: Cymru, Cerddoriaeth a Rygbi. Ydw, rydw i’n caru Cymru, yn mwynhau cerddoriaeth a ddim yn meindio rygbi, ond y prif reswm dros wylio oedd y posibilrwydd o weld un o gyn-benaethiaid S4C yn ymddwyn yn amhriodol tuag at gyn-fewnwr rhyngwladol yn y cefndir!