Tydi o ’mond yma ers mis. Dafydd drws nesa’ wedi dod o hyd iddo fo ar y We, ac wedi ei nôl o gan ei gyn-berchennog o faes parcio McDonalds rhywle ar bwys Warrington. Mi gyrhaeddodd o yma fin nos ryw nos Wener, fel rhywun yn cyrraedd parti, ac mi wyliais i drwy’r ffenest wrth i’n cymydog newydd ni sniffio’r aer, edrych o gwmpas ar ei diriogaeth newydd yn siomedig. Mae o’n lliw hyfryd, ’run fath â’r surop ’da chi’n ei gael mewn tun, ac mae o’n gyhyrau caled i gyd, bron fel tasa fo’n ormod i’w goes