Mae gormod o gyflwynwyr a phyndits rygbi S4C a Radio Cymru yn troi at y Saesneg ar y gwefannau cymdeithasol, yn ôl Dylan Wyn Williams…
Yn gyntaf – gair o glod i S4C Chwaraeon am Gwpan Rygbi’r Byd. Mae’n help garw bod y crysau cochion ar i fyny yn Ffrainc hefyd. Mae brwdfrydedd y cyflwynwyr a’r sylwebwyr yn heintus, y sylwadau’n taro deuddeg, a’r cyfan mewn Cymraeg clir. Ac mae’r ffaith bod y ddau gapten a chymaint o’r garfan yn siarad ein hiaith o flaen camera ac mewn datganiadau i’r wasg gerbron y byd, yn eisin ar y gacen. Ardderchog. Mae cael ein criw Ni reit yng nghanol berw’r stadiymau gan mil gwell nag arlwy ITV, sy’n darlledu o stiwdio yn Llundain â sgrîn werdd o doeau Paris, gyda phedwar cyn-chwaraewr yn sefyll y tu ôl i bodiwm fel gwleidyddion stiff. Pa ryfedd bod S4C wedi cyrraedd rhestr fer ‘Darlledwr chwaraeon y flwyddyn’ gwobrau Broadcast Sports 2023 ochr yn ochr â BBC Sport, discovery+, Sky Sports ac ITV Sport?
Ond – ac mae yna wastad ‘ond’ does? Gobeithio i’r nefoedd nad sioe arwynebol o ddefnyddio’r iaith ydi hon, megis rhai plant ysgolion cyfun Cymraeg yng ngŵydd eu hathrawon neu ar gae steddfod. Pam yr amheuaeth? Trowch i’r gwefannau cymdeithasol, ac fe welwch â chalon drom mai English ydi cyfrwng llawer o’r rheiny sy’n cael cyflog go-lew gan S4C a BBC Radio Cymru. Saesneg sy’n cyd-fynd â’u lluniau gwenog neis-neis o Nice neu wrth lolian yn Lyon. Saesneg ydi’r iaith ar ôl diffodd y meic a’r camera. Saesneg sy’n cŵl.
Pa fath o neges a delwedd mae hyn yn ei chyfleu i’w llu o ddilynwyr, llawer ohonyn nhw’n ifanc a hawdd dylanwadu arnynt? Dagrau pethau yw bod y ganran sy’n postio negeseuon Cymraeg yn bennaf yn affwysol o isel fel mae hi – prin 7% ar Facebook, 6% ar Twitter a 6% ar gyfryngau cymdeithasol eraill (Arolwg Defnydd Iaith, Llywodraeth Cymru 2019-20). Go brin y gallai s’lebs S4C ddefnyddio’r esgus ‘diffyg hyder’ dros fethu â defnyddio eu mamiaith ar-lein, wrth ddarlledu’n rhwydd a rheolaidd i filoedd lawer nôl adref yng Nghymru a thu hwnt. Gyda llaw, S4C oedd dewis-sianel rhai o fariau Bordeaux medd perthynas i mi fu’n ddigon ffodus i wylio gêm Ffiji yno.
Mae rhywun yn ofni mai dim ond ffenast siop i fywyd a gwaith y tu hwnt i Glawdd Offa ydi S4C, carreg gamu tuag at borfeydd brasach y rhwydwaith ac ymddangosiad posib ar Strictly. Mae llawer ohonyn nhw’n cyfrannu’n achlysurol at sianeli Sky a Prime Video beth bynnag, felly pam ddim cyfathrebu’n Gymraeg wrth weithio i unig Sianel Gymraeg y byd?
Dwy iaith ar S4C
Diddorol ydi cymharu dewis iaith ein Sianel Genedlaethol â darlledwyr ieithoedd lleiafrifol eraill Ewrop. Mae mwyafrif negeseuon Twitter/X ac Instagram swyddogol y sianel Wyddeleg, @TG4TV (108.7k o ddilynwyr) yn hyderus o uniaith Gaeilge tra mai dwyieithog ydi rhai S4C (49.7k o ddilynwyr) ar y cyfan. Dwyieithog ydi’r testun ar y sgrîn hefyd, wrth hysbysebu pa raglen sydd i ddod nesa neu nos fory. Byth ers ffrae iaith Pobol y Cwm, mae rhywun dan yr argraff annifyr bod mwy a mwy o’r iaith fain yn sleifio i’n haelwydydd bob nos drwy S4C. Mae’r gyfres ddrama newydd Anfamol yn cynnwys sawl golygfa uniaith Saesneg, o’r nyrs i’r ymwelydd iechyd a sawl un arall yn y canol. Efallai’n wir mai’r brifddinas bei-ling yw’r lleoliad ac nad oes disgwyl i bob gweithiwr iechyd siarad iaith y nefoedd. Ar y llaw arall, siawns na fyddai’r prif gymeriad Ani wedi manteisio ar ddosbarth mam a’i rhieni cyfrwng Cymraeg yn swbwrbia soy latte Parc y Rhath? Dwi’n amau bod penderfyniadau golygyddol yn drech na’r awdur yn hyn o beth, ac yn arswydo o feddwl beth ydi polisi iaith Cadeirydd a Phrif Weithredwr S4C, heb sôn am iaith y pwyllgorau comisiynu draw yn yr Egin.
Mewn byd delfrydol, lle mae’r coffrau ariannol yn iach â ninnau’n meddu ar wleidyddion efo digon o asgwrn cefn i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros ddarlledu i Fae Caerdydd, byddai gennym sawl S4C. Prif sianel gyfan gwbl Gymraeg, yna S4C2 gyda mwy o Saesneg i lenwi bwlch truenus BBC ac ITV Wales – yn ddelfrydol i Iaith ar Daith a Weatherman Walking, Sharp End a Pobol y Cwm “gwirioneddol ddwyieithog” fel yr awgrymodd Gwilym Dwyfor yn yr hwn o gyhoeddiad. S4C3 i’r to iau wedyn, gydag arlwy swmpus Cyw a Stwnsh yn ystod y dydd yn gwneud lle i gyfresi mwy mentrus Hansh yr hwyr, ar gyfer “cheeky devils” a “hotties Cymru”, chwadal cyflwynydd Tisho Fforc?
Dyna’r patrwm darlledu yng Ngwlad y Basg ers sawl blwyddyn, gyda chwe sianel dan faner grŵp EITB (Euskal Irrati Telebista) yn darlledu naill ai’n uniaith Fasgeg, Sbaeneg neu ddwyieithog, ers 1982. Ie, yr un flwyddyn â sefydlu Sianel Pedwar Cymru.
Ac wrth sgwennu’r hyn o lith, dwi’n gweld postiad gan gyflwynydd Cymraeg ar ei ffordd i Nantes i recordio rhaglen arall ar gyfer S4C. Yn Saesneg. Mae’n bryd i mi adael y gwefannau anghymdeithasol yma.
‘Cwis Gwylwyr S4C – Canfod un noson pan nad oes Saesneg yn y rhaglenni!’ – Tudalen 13