Trist iawn oedd gweld erthygl am gastell Caerffili yn nhudalennau’r cylchgrawn (‘Sgandal Brenhinol a Gwesteion Crand’, Golwg 31/08/23). Bu erthygl debyg o ran maint am gestyll Cymru yn rhifyn 25 Mai – ‘Y cestyll sy’n adrodd stori’r Cymry’. Holi ydw i pam fod rhaid cael cymaint o sylw i’r adeiladau hyn, a chyn lleied o sylw yn eich cylchgrawn i hanes Cymru ar ei hyd.