Rhian Cadwaladr sy’n cynghori dyn ifanc sydd ofn dychwelyd i’r coleg ar ôl gwrthod cysgu efo rywun-rywun…
Annwyl Rhian,
Mi fydda i yn dechrau fy ail flwyddyn yn y brifysgol fis yma ac yn rhannu tŷ efo pump o fechgyn eraill sy’n chwaraewyr rygbi ac yn macho iawn. Ges i brofiad gwael efo merch ar ddiwedd fy mlwyddyn gynta’ a rŵan dwi’n poeni’n arw am fynd nôl i’r brifysgol. Ro’n i wedi cwrdd â hi mewn parti ac wedi dod ymlaen yn dda ac aethon ni nôl i fy stafell. Ro’n i jest eisiau siarad efo hi ond mi ddechreuodd hi fy nghusanu a thynnu ei dillad. Wnes i ofyn iddi, yn gwrtais, i adael. Dydw i ddim wedi cysgu efo neb o’r blaen ac eisiau i’r profiad fod yn sbesial. Ers hynny, mae hi wedi bod yn rhannu negeseuon cas amdana’i ar y cyfryngau cymdeithasol a hyd yn oed wedi awgrymu fod mod i’n hoyw, a rŵan dw i’n ofni mynd nôl i’r brifysgol. Dw i’n gwybod bydd yr hogiau yn y tŷ yn gwneud hwyl am fy mhen i ond dwi ddim yn credu bod dim byd o’i le mewn aros er mwyn i’r profiad fod yn un arbennig. Be alla i wneud?
Mae eich llythyr wedi gwneud i mi feddwl gymaint mae’r oes wedi newid. Pan briododd fy rhieni yn 22 oed, 63 o flynyddoedd yn ôl, yr arfer oedd i ddisgwyl nes eich bod chi wedi priodi cyn cael rhyw – neu dyna oedd yn cael ei annog beth bynnag. Faint oedd yn cadw at hynna dwi ddim yn siŵr, ond yn sicr roedd yna droi trwynau ar y syniad o ‘gysgu o gwmpas’, yn enwedig os oeddech chi’n ferch, a’ch syniad chi o gadw eich hun nes daw’r Rhywun Arbennig yna oedd y ddelfryd.
Erbyn heddiw mae agwedd cymdeithas at ryw wedi newid yn llwyr – er gwell ynta er gwaeth? Mae hynna yn fater o farn. Ar un olwg, gydag atal cenhedlu yn hawdd, mae merched yn cael y rhyddid i wneud fel mynnent ac i gymryd cyfrifoldeb dros eu bywydau rhywiol, a’i fwynhau gymaint â’r dynion. Yr olwg arall yw bod yr agwedd ffwrdd â hi sydd gan gymdeithas y dyddiau yma yn golygu colli’r tynerwch a’r cysylltu arbennig yna sy’n digwydd pan fo cwpwl yn syrthio mewn cariad ac yn cyfathrebu efo’u cyrff am y tro cyntaf. Tydi pobl ddim yn fodlon disgwyl am ddim – yn cael têc awês sy’n gynt na choginio pryd, ac yn prynu rhywbeth ar gardiau credyd yn lle hel pres a’i gael o’n hwyrach. Rydym ni eisiau popeth rŵan!
Efallai hefyd fod rhai yn rhuthro i gael rhyw achos eu bod yn credu mai dyna ydi’r disgwyl ohonynt, mai dyna ydi’r norm – yn enwedig ym myd myfyrwyr. Ella mai dyma’r sefyllfa efo’r ferch yn eich stori chi. Beth bynnag oedd ei rheswm dros gynnig ei hun i chi, mae’n amlwg o’i hymateb, fod y ffaith eich bod chi wedi ei gwrthod wedi codi cywilydd arni ac wedi ei brifo. A rŵan mae hi’n trïo eich brifo chi yn ôl drwy ddweud pethau câs amdanoch – ac ella gwneud ei hun deimlo’n well drwy honni eich bod yn hoyw ac mai dyna pam y bu i chi ei gwrthod. Fy ngobaith i, a chithau ym mwrlwm cychwyn tymor newydd, ydi y bydd hi’n anghofio amdanoch ymhen dim ac yn symud ymlaen – wedi’r cyfan mae hi wedi cael dweud ei dweud. Os nad ydi hyn yn digwydd, ac os ydi’r sefyllfa yn dal i’ch poeni, tybed y medrwch chi drïo cael sgwrs efo hi, rŵan fod gwres y foment wedi hen bylu? I esbonio yn iawn pam nad oeddech chi eisiau cael rhyw efo hi, ac nad oedd hyn yn adlewyrchiad ohoni hi, ond yn hytrach yn rhan o’ch coel am berthynas.
Rhaid i mi ddweud mi rydw i yn eich edmygu chi am gadw at eich cred – tydi hi byth yn hawdd troi yn erbyn y lli. Da iawn chi am beidio â chael eich gwthio i wneud rhywbeth tyda chi ddim eisiau ei wneud. Lle mae’ch cyd-letywyr yn y cwestiwn – trïwch beidio â chymryd sylw o’u tynnu coes. Petae chi’n cael sgwrs gall un-i-un efo nhw efallai y byddech chi’n gweld ochr arall iddyn nhw. Ond pan mae bechgyn efo’i gilydd, yn fy mhrofiad i beth bynnag (mi rydw i yn fam i dri mab a thri llysfab), maen nhw yn siŵr o dynnu coes – ac os na fydda nhw yn tynnu eich coes am hyn, mi fydda nhw yn tynnu eich coes am rywbeth arall. Yn aml tydyn nhw ddim yn sylweddoli eu bod yn brifo rhywun ac fe fyddant yn gofidio petaent yn gwybod hynny.
Ceisiwch eich gorau i beidio â gadel i hyn eich poeni. Trowch eich meddwl at rywbeth arall os ydy’r sefyllfa yn dod i’ch pen. Buan iawn fydd pawb wedi anghofio am y peth ac fe fydd pethau wedi symud ymlaen. Beth bynnag wnewch chi, peidiwch â gadael i’r profiad eich dychryn rhag cychwyn perthynas efo merch arall… ond efallai y byddai cystal i chi wneud eich meddwl yn glir cyn cyrraedd y pwynt lle all pethau droi’n annifyr.