Mae cerddor o’r Rhondda yn canu am boeni ynghylch newid hinsawdd – climate anxiety

Artist sy’n creu cerddoriaeth ôl-pync digyfaddawd yw Matt Rhys Jones, ac ers 2019 mae o’n defnyddio’i gerddoriaeth fel arf i helpu gyda’i iechyd meddwl.

Mae’n anodd rhoi bys ar union genre caneuon Matt, sy’n perfformio dan yr enw Me Against Misery, ond maen bendant yn wahanol i unrhyw beth arall y byddwch chi wedi’i glywed gan y Sîn Roc Gymraeg.