A ninnau wedi bod gyda’r NatWest ers rhyw ddeugain mlynedd, ac yn cael llyfrau sieciau a thalu-i-mewn dwyieithog gydol y cyfnod hwnnw, synnwyd ni’n fawr pan gawsom lyfr talu-i-mewn uniaith Saesneg. Aeth staff y gangen leol ar drywydd hyn a chael gwybod (a hynny er mawr syndod iddynt hwythau hefyd) fod y NatWest wedi rhoi’r gorau i ddarparu llyfrau talu-i-mewn dwyieithog. Ymateb y banc i’m llythyr Cymraeg atynt oedd: “It is a bank wide decision to stop printing the Welsh Bilingual Paying in B