Draw yn America y bu i Gymraes ddysgu’r grefft sy’n cynnig bywoliaeth iddi…

Carthenni Cymreig sy’n cael dylanwad ar grochenwaith cyn-therapydd galwedigaethol sy’n creu llestri a gemwaith.

Bydd Olwen Thomas yn creu ei gwaith serameg gyda llaw, yn hytrach nag ar olwyn, ac mae’r darnau wedi’u dylanwadu gan gyfuniad o dreftadaeth gyfoes a thraddodiadol Cymru.