Mae Iago Llŷn Evans a Seth Burke wedi bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru ers 2021 ac wedi bod yn sôn am y profiad gyda Catrin Lewis…

 

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gangen o fewn y Senedd ym Mae Caerdydd sy’n rhoi’r cyfle i bobol ifanc y genedl drafod y pynciau sy’n bwysig iddyn nhw.

Daeth i fodolaeth wedi pleidlais gan Aelodau o’r Senedd yn Hydref 2016 i sefydlu’r gangen er mwyn rhoi cyfle i bobol ifanc y genedl drochi eu hunain yn y byd gwleidyddol.