Mae drama lwyfan boblogaidd wedi ei haddasu yn gyfres deledu, gyda merch a thad go-iawn yn actio gyda’i gilydd am y tro cyntaf. Ac mae yna un o actorion y gyfres boblogaidd Bridgerton yn y cast hefyd…

Mae cymeriad Bethan Ellis Owen yn mynd drwy bob math o emosiynau mewn cyfres deledu newydd, o hiwmor i alar, wrth feichiogi a magu babi.