Rhesymau i fod yn hapus, hyderus a hawddgar ar derfyn Haf o hwyl…

 

#1

Y nifer fwyaf erioed o rafins wedi mentro draw i’r Maes B ym Moduan – 14,000.

Dyna fil yn fwy na’r record flaenorol a gafodd ei gosod ym maes yr ieuenctid ym Môn yn 2017.

Hwyrach fod yr iaith ar drai yn ôl rhai, ond bu llanw ym Maes B… cewch luniau’r holl firi a’r direidi yn y Babell Roc ar dudalennau 28 a 29.

Hir oes i Faes B a’r dyb-roc-hip-hop sy’n ei chynnal hi. Yn Gymraeg.